Dydy 66% o bobol yng Nghymru a gafodd eu holi fel rhan o arolwg barn ddim yn ymddiried yn Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, na’i llywodraeth i wneud y penderfyniadau cywir er lles pobol.

Cafodd yr arolwg Barn Cymru ei gynnal gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Partneriaeth gydweithredol rhwng ITV Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac YouGov yw Barn Cymru.

Nod y pôl yw cynnig mewnwelediad i gredoau, agweddau a safbwyntiau pobol ac i gael adborth ar safbwyntiau’r cyhoedd yng Nghymru.

Cafodd 1,014 o bobol dros 16 oed yng Nghymru eu holi rhwng Medi 20-22.

12% o’r rhai wnaeth ateb sydd o’r farn bod gan Liz Truss y gallu i fod yn brif weinidog da, ond roedd bron eu hanner nhw’n credu eu bod hi am fod yn brif weinidog gwael neu ofnadwy.

O ran bwriad pleidleisio pobol, mae gan Lafur eu cyfran uchaf ers mis Mawrth 2018 a’r Ceidwadwyr eu cyfran isaf ers mis Mehefin 2016, sy’n golygu bod Llafur ar y blaen o 23 pwynt, y bwlch mwyaf ers bron i ddegawd.

Bwriadau pleidleisio

San Steffan

Ceidwadwyr – 23% (-3)

Llafur – 46% (+5)

Democratiaid Rhyddfrydol – 5% (-2)

Plaid Cymru – 15% (-1)

Reform UK – 5% (+1)

Y Blaid Werdd – 3% (-1)

Eraill – 3% (+1)

 

Etholaethau’r Senedd

Ceidwadwyr – 20% (-4)

Llafur – 40% (+3)

Democratiaid Rhyddfrydol – 6%

Plaid Cymru – 22% (+ 1)

Reform UK – 5%

Y Blaid Werdd – 3% (-2)

Eraill – 4%

 

Ceidwadwyr yn wynebu cael eu gwyngalchu

“Pe bai ffigyrau bwriadau pleidleisio San Steffan yn chwarae allan mewn etholiad cyffredinol go iawn, mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru yn agos at diriogaeth dileu etholiadol tebyg i 1997,” meddai Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

“Yn y bwriadau pleidleisio yn y Senedd, rydym yn gweld patrwm tebyg gyda ffigyrau’r Ceidwadwyr yn gostwng i’w lefelau isaf ers haf 2019, er bod newidiadau mwy cymedrol i Lafur yma.”

Yn ôl Owain Phillips, Golygydd Rhaglenni a Digidol ITV Cymru, mae gan Liz Truss a’i llywodraeth “waith i’w wneud”.

“Y pôl hwn yw’r tro cyntaf i ni gynnal arolwg o ymatebwyr Cymreig ers i Liz Truss ddod yn Brif Weinidog, ac mae’n awgrymu bod ganddi waith i’w wneud er mwyn darbwyllo pleidleiswyr,” meddai.

“Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd sydd, unwaith eto, wedi cynnig mewnwelediad ac arbenigedd gwerthfawr wrth ddehongli canlyniadau’r pôl.”