Mae Jess Fishlock yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd.

Roedd hi wedi methu dwy gêm grŵp olaf Cymru gydag anaf.

Fodd bynnag, dydy’r ymosodwr Natasha Harding ddim ar gael ar gyfer y gemau oherwydd rhesymau personol.

Bydd Cymru’n herio Bosnia-Herzegovina nos Iau (Hydref 6) – gyda’r gic gyntaf am 7:15yh – yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle.

Pe bai merched Gemma Grainger yn fuddugol, fe fydden nhw wedyn yn teithio i’r Swistir ar gyfer y ffeinal ddydd Mawrth (Hydref 11).

Cafodd Jess Fishlock, chwaraewr mwyaf profiadol y garfan gyda 134 cap, ei hanafu wrth ymarfer ar gyfer gemau fis diwethaf.

Ond llwyddodd Cymru i sicrhau’r ail safle yn y grŵp gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Gwlad Groeg oddi cartref, a gêm gyfartal yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd.

“Ers hynny mae hi wedi dychwelyd i’w chlwb ac rydyn ni wedi cael cyfarfodydd a chynllun mewn lle ar ei chyfer,” meddai’r rheolwr Gemma Grainger.

“Mae wedi cael munudau i’w chlwb. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hi wedi ymroi i fod yn barod ar gyfer y gêm yma yn erbyn Bosnia.”

Bydd dau o’r tri thîm Ewropeaidd sy’n ennill rownd derfynol eu gemau ail gyfle yn ennill lle awtomatig yng Nghwpan y Byd 2023, sy’n cael ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd.

Ond petai Cymru’n un o’r rheiny, a hwythau’n un o ddetholion isaf y gemau ail gyfle, mae’n debygol y byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu un rownd arall o gemau ail gyfle fis Chwefror nesaf, yn erbyn tîm o gyfandir arall.

Y garfan

Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Georgia Walters, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Ceri Holland, Maria Francis-Jones, Chloe Williams, Morgan Rogers, Chloe Bull.