Tarodd Tom Haines, capten tîm criced Sussex, ddau ganred ar yr un diwrnod wrth i obeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth chwalu yn Hove ddoe (dydd Mercher, Medi 28).
Roedd angen buddugoliaeth a chynifer o bwyntiau bonws â phosib ar Forgannwg, a gobeithio bod Swydd Gaerwrangon yn curo Middlesex er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw, ond dydy’r naill na’r llall ddim am ddigwydd ar ddiwrnod ola’r tymor heddiw (dydd Iau, Medi 29).
Daeth cadarnhad na fydd chwarae’n bosib yng Nghaerwrangon, sy’n golygu bod yr ornest honno wedi gorffen yn gyfartal, gyda Middlesex yn cipio digon o bwyntiau, felly, i ennill dyrchafiad ar draul Morgannwg.
Ar ddechrau’r diwrnod, roedd Sussex yn 312 heb golli wiced yn eu hail fatiad, ar ôl cael eu gorfodi i ganlyn ymlaen ar ôl cael eu bowlio allan am 258 yn eu batiad cyntaf wrth ymateb i sgôr enfawr Morgannwg, 533 am naw wedi cau’r batiad.
Ond dydy Morgannwg ddim wedi gallu manteisio gyda’r bêl ar eu dechrau da gyda’r bat, a bydd yn rhaid iddyn nhw aros am dymor arall.
Y trydydd diwrnod
Dechreuodd Tom Haines y trydydd diwrnod ar 34, ac fe aeth yn ei flaen i gyflawni’r nod o fod y batiwr cyntaf i Sussex ers 2014 i gario’i fat – hynny yw, batio trwy gydol y batiad.
Erbyn diwedd y chwarae, roedd Haines ac Ali Orr yn dal wrth y llain ar ôl wynebu 53 o belawdau hesb i Forgannwg, gyda 190 o’u rhediadau’n dod oddi ar ergydion i’r ffin.
Roedd Orr heb fod allan ar 185 oddi ar 163 o belenni, gan gynnwys 18 pedwar a naw chwech, tra bod Haines heb fod allan ar 121 oddi ar 157 o belenni, gydag 16 pedwar.
Mae gan Sussex flaenoriaeth o 37 yn eu hail fatiad, sy’n golygu y byddai’n rhaid i Forgannwg eu bowlio nhw allan a chwrso’r nod yn llwyddiannus mewn cwta 96 o belawdau.
Mae Sussex wedi llwyddo i adfer y sefyllfa’n dda ar ôl dechrau’n wael, wrth golli tair wiced yn eu batiad cyntaf am 18 rhediad yn ystod awr gynta’r trydydd diwrnod, gyda’u pedair wiced olaf yn cael eu colli wedyn am chwe rhediad mewn pedair pelawd.
Cipiodd James Harris ddwy wiced mewn pedair pelen i waredu Tom Clark a Dan Ibrahim, gyda Fynn Hudson-Prentice allan hefyd cyn i Haines a Charlie Tear ddod ynghyd i adeiladu partneriaeth o 95 am y seithfed wiced, gyda Haines yn cyrraedd ei ail ganred eleni – daeth y cyntaf (234) yn erbyn Swydd Derby ym mis Ebrill.
Hwn oedd ail hanner canred Tear i’r sir, ac yntau ond yn chwarae ei ail gêm i’r sir, ond ar ôl iddo fe golli ei wiced, collodd tri batiwr olaf Sussex eu wicedi nhw heb sgorio’r un rhediad.
Ail fatiad Sussex
Ddeng munud ar ôl gadael y cae heb fod allan, roedd Haines yn ôl wrth y llain ar gyfer yr ail fatiad, ac roedd Sussex yn sgorio ar gyfradd o saith rhediad y belawd yn ystod y pelawdau agoriadol.
Cyrhaeddodd Orr ei hanner canred gydag ergyd chwech oddi ar y troellwr llaw chwith Ajaz Patel, a chyrhaeddodd ei ganred oddi ar 38 o belenni’n rhagor, gan daro Patel am dair ergyd chwech yn olynol.
Daeth ei 50 rhediad nesaf oddi ar 41 o rediadau, ac fe basiodd ei sgôr gorau erioed, 141, gyda Patel wedi ildio 78 rhediad oddi ar wyth pelawd.
Cyrhaeddodd Orr y garreg filltir o 1,000 o rediadau mewn tymor wrth gyrraedd 153, ac fe gyrhaeddodd Haines ei ganred am yr ail waith ar y diwrnod yn fuan wedyn – y batiwr cyntaf i gyflawni’r nod i Sussex ers Mike Yardy yn erbyn Swydd Efrog yn 2011.
Mae Orr a Haines, y ddau fatiwr llaw chwith, wedi torri’r record am y bartneriaeth fwyaf i fatwyr Sussex yn erbyn Morgannwg, gan guro 294 gan Luke Wells a Ben Brown yn Hove yn 2016 – dim ond tair partneriaeth agoriadol arall yn erbyn unrhyw wrthwynebwyr sydd wedi bod yn hanes Sussex.
Ond o safbwynt Morgannwg, byddan nhw’n edrych yn ôl ac yn difaru’r golled yn erbyn Middlesex yn gynharach y tymor hwn a bydd diwrnod ola’r tymor yn gyfle olaf i ffarwelio â Michael Hogan ac i ddiolch iddo fe am ddegawd o wasanaeth ffyddlon i’r sir wrth iddo fe ymddeol a dychwelyd adref i Awstralia.