Yn dilyn cadarnhad yn gynharach heddiw (dydd Iau, Medi 29) nad ydyn nhw wedi ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, daeth gêm tîm criced Morgannwg yn erbyn Sussex i ben yn gyfartal yn Hove.
Daeth Ali Orr o fewn trwch blewyn i ganred dwbwl gyda 198, tra bod y capten Tom Haines wedi sgorio 177 i’r Saeson, gyda Dan Ibrahim yn taro 100 heb fod allan, wrth i Sussex fatio drwy gydol y diwrnod olaf.
Sgoriodd Sussex 554 am wyth yn eu hail fatiad, a daeth yr ornest i ben yn fuan ar ôl i Ibrahim gyrraedd y garreg filltir am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Ychwanegodd Orr 13 o rediadau at ei sgôr dros nos, gan gynnwys deg ergyd chwech, cyn cael ei redeg allan gan y troellwr llaw chwith Ajaz Patel wrth i Haines fwrw’r bêl a honno’n dod oddi ar law’r bowliwr a bwrw’r wiced.
Collodd Sussex bedair wiced am 30 o rediadau mewn 17 pelawd wedyn, wrth i Haines wylio o ben draw’r llain i gadw gobeithion Morgannwg o sicrhau buddugoliaeth yn fyw – er bod eu gobeithion o ennill dyrchafiad wedi hen fynd.
Bowliodd Patel ac Andrew Salter, troellwyr Morgannwg, yn dda wrth waredu Tom Alsop, Tom Clark a Fynn Hudson-Prentice cyn i Haines gyrraedd 150 gydag ergyd i’r ffin oddi ar Salter.
Ond gydag wyth rhediad ychwanegol i’w enw ar ôl cinio, cafodd ei ddal gan yr eilydd Andy Gorvin oddi ar fowlio Patel, gyda Morgannwg yn ei longyfarch wrth iddo fe adael y cae ar ôl sgorio cyfanswm o 285 o rediadau yn yr ornest a 941 o rediadau yn y tymor.
Cipiodd Salter ei drydedd wiced wrth i Gorvin ddal Charlie Tear, a daeth pedwaredd wrth i’r bowliwr gipio daliad oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Faheem Ashraf.
Doedd Ibrahim ddim wedi sgorio rhediad yn ei 21 o belenni cyntaf wrth y llain, ond ychwanegodd e a Jack Carson 41 am yr wythfed wiced i fynd â’r gêm oddi wrth Forgannwg.
Cafodd Carson ei ddal cyn i Forgannwg droi at eu bowlwyr achlysurol a chyrhaeddodd Ibrahim ei ganred oddi ar fowlio Sam Northeast ar ôl wynebu 194 o belenni a tharo 11 pedwar ac un chwech.
Cafodd Michael Hogan gymeradwyaeth gynnes wrth arwain Morgannwg oddi ar y cae wrth iddo ymddeol a dychwelyd i Awstralia yn fuan.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn gorffen yn drydydd, un safle islaw’r ail safle hollbwysig, gyda Swydd Nottingham a Middlesex yn codi i’r Adran Gyntaf, tra bod Swydd Gaerloyw a Swydd Efrog yn gostwng o’r Adran Gyntaf.