Mae Joe Allen yn holliach eto ac yn gobeithio chwarae rhan yng ngêm Abertawe yn West Brom fory (dydd Sadwrn, Hydref 1).

Cafodd chwaraewr canol cae Cymru anaf i linyn y gâr, oedd yn golygu nad oedd e ar gael ar gyfer gemau diweddaraf Cymru yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.

Ond mae e wedi dychwelyd i’r cae ymarfer gyda’r Elyrch, ac yn gobeithio chwarae rhan yn y gêm gynghrair yng nghanolbarth Lloegr.

“Mae Joe yn ôl yn ymarfer, ac mae e wedi bod yn wych,” meddai’r rheolwr Russell Martin.

“Bydd yn rhaid i ni ei asesu a gweld os mai fory yw’r amser cywir i’w ddechrau fe neu beidio.

“Mae e wedi edrych yn dda, dim ond problem fach oedd yr anaf, oedd yn newyddion gwych i ni ac i Joe.”

Un arall sy’n dychwelyd yw’r amddiffynnwr Joel Latibeaudiere, a hwnnw wedi gwella o anaf i’w ysgwydd ar ôl sawl wythnos ar y cyrion.

Ond mae gan Jamie Paterson anaf i gesail y forddwyd, tra bod Liam Cullen yn parhau i wella o anaf i’w ysgwydd.