Mae Mark Hudson – rheolwr dros dro Caerdydd – yn dweud y bydd yn pwyso ar ei brofiadau fel chwaraewr a hyfforddwr tra mae ef wrth y llyw.
Bydd yr Adar Gleision yn herio Burnley yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn (Hydref 1), gyda’r gic gyntaf am dri o’r gloch y prynhawn.
Hon fydd gêm gyntaf y clwb ers iddyn nhw ddiswyddo Steve Morison.
Mae’r tîm cartref yn 18fed yn y gynghrair, un pwynt uwch ben safleoedd y gwymp, tra bod dynion Vincent Kompany yn teithio i’r Brifddinas yn bedwerydd yn y tabl.
“Dw i wedi cael cais i edrych ar ôl y clwb am y tro, ac mae hynny’n anrhydedd mawr i mi,” meddai Mark Hudson.
“Yn amlwg ro’n i yma fel chwaraewr, a dw i wedi bod yma fel hyfforddwr.
“Dw i wedi cael lot o brofiadau fel chwaraewr ac fel hyfforddwr.
“Dw i wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen, felly os alla i alw ar unrhyw un o’r profiadau yna dw i wedi eu cael, mi wna i.
“Mae gennym ni dair gêm fawr yr wythnos hon, felly dyna’n prif ffocws.
“Dyna’r oll dw i wedi gofyn i’r chwaraewyr ganolbwyntio arno, oherwydd mae’r gemau’n dod mor gyflym.
“Fe wnes i alw cyfarfod staff a chwaraewyr, lle’r oedden ni i gyd gyda’n gilydd.
“Mae’r Clwb, a phêl-droed, yn symud ymlaen, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at herio Burnley.”