Bydd tîm rygbi Cymru’n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2023 gyda dwy gêm yn erbyn Lloegr ac un yn erbyn De Affrica.

Bydd y ddau dîm yn ymweld â Stadiwm Principality, a bydd tîm Wayne Pivac hefyd yn teithio i Twickenham.

Bydd y cyfan yn dechrau gyda gêm yn erbyn y Saeson yng Nghaerdydd ar Awst 5 ac oddi cartref ar Awst 12, cyn i’r Springboks gyrraedd prifddinas Cymru ar Awst 19.

Cyn i’r gemau gael eu cynnal, bydd y garfan yn ymarfer yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf ac yn ceisio ennill eu lle ar yr awyren i’r gwersyll yn Ffrainc cyn i’r prif hyfforddwr gyhoeddi ei garfan derfynol ar gyfer y twrnament.

“Gyda llai na blwyddyn i fynd tan Gwpan Rygbi’r Byd yn 2023, mae gennym ni raglen glir wedi’i gosod ar gyfer y garfan yn barod at y twrnament,” meddai Wayne Pivac.

“Dw i’n falch ein bod ni wedi gallu cadarnhau gemau paratoadol yn erbyn Lloegr – gartref ac oddi cartref – a gartref yn erbyn De Affrica yn rhan o hyn.

“Mae’r tair gêm hyn yn elfen allweddol o’n paratoadau terfynol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld cynifer o gefnogwyr â phosib ynddyn nhw cyn i’r garfan adael am Ffrainc.”

Barn y gwrthwynebwyr

Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, yn edrych ymlaen at yr her o wynebu Cymru ddwywaith cyn Cwpan y Byd.

“Rydym yn ffodus iawn o gael gwrthwynebwyr anodd gyda Chymru ac o’u herio nhw gartref ac oddi cartref, ynghyd â’r awyrgylch rydym bob amser yn ei brofi yng Nghaerdydd.

“Bydd yn baratoad gwych i’r garfan.”

Yr un yw barn Jacques Nienaber, hyfforddwr De Affrica, hefyd.

“Mae Cymru bob amser wedi bod yn gystadleuaeth anodd i ni, ac mae ein canlyniadau yn eu herbyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf yn dyst i’w safon fel tîm,” meddai.

“Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn un o’r cystadlaethau mwyaf anodd yn y byd, a rhaid i chi fod ar eich gorau bob wythnos i gyrraedd y rownd derfynol, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n profi’n hunain yn erbyn gwrthwynebwyr o safon wrth arwain i fyny at y gystadleuaeth.

“Gyda Chymru yn y deg uchaf yn y byd a’r ffaith fod ganddyn nhw record dda o fuddugoliaethau yn ein herbyn ni yng Nghaerdydd dros y tymhorau diwethaf, does gennym ni ddim amheuaeth y bydd hyn yn brawf cryf o’n cymeriad ni ac yn baratoad gwych i ni wrth fynd i mewn i Gwpan y Byd.”