Cafodd Sam Northeast ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg ac Orielwyr San Helen yn y noson wobrwyo flynyddol yn Jersey Marine neithiwr (nos Lun, Hydref 3).
Fe fu’n dipyn o flwyddyn i’r batiwr profiadol yn ei dymor cyntaf gyda’r sir, wrth iddo fe sgorio 410 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth yn Grace Road a gorffen ar frig y siartiau rhediadau ym mhob cystadleuaeth i’r sir.
Sgoriodd e 510 o rediadau ar gyfartaledd o 51 mewn gemau ugain pelawd, gan gynnwys pedwar hanner canred ac fe adeiladodd e a David Lloyd bartneriaeth o 150 yn erbyn Middlesex, sy’n record i’r sir.
Mewn 35 o gemau, sgoriodd e gyfanswm o 1,990 o rediadau.
Dyma’r sgôr uchaf yn y Bencampwriaeth ers i Brian Lara daro 501 heb fod allan i Swydd Warwick yn 1994, ac fe gurodd e record flaenorol Steve James, sef 309 yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos yn 2000.
Cafodd partneriaeth Northeast a Chris Cooke o 461 yn y gêm honno gydnabyddiaeth yn y noson wobrwyo hefyd, ac fe gipiodd Northeast wobr Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth, y Chwaraewr Gorau mewn Gemau Undydd a Chwaraewr y Flwyddyn yr Orielwyr hefyd.
Sgoriodd e 177 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerwrangon, sydd hefyd yn record i’r sir mewn gemau undydd.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd i Michael Hogan, sydd wedi ymddeol ar ôl degawd gyda Morgannwg, ac yntau’n cael ei dderbyn i Oriel Enwogion Morgannwg ac yn ennill Gwobr Goffa David Evans.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd i Colin Ingram ac Eddie Byrom am record o bartneriaeth yn erbyn Sussex, i Sam Northeast a Chris Cooke am eu partneriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr, i Sophia Smale am ei pherfformiadau yn y Can Pelen, ac i’r capten David Lloyd am sgôr o 313 heb fod allan yn erbyn Swydd Derby, a hwnnw’n torri record Steve James hefyd.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd:
- Callum Nicholls (Chwaraewr y Flwyddyn yr Academi)
- Tom Bevan (Chwaraewr y Flwyddyn Ail Dîm Morgannwg, a’r un wobr gan yr Orielwyr, Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn)
- Callum Taylor (Gwobr Gerry Munday am y chwaraewr heb gap sydd wedi gwella fwyaf
‘Blwyddyn wallgof’
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wallgof, ac fe fu’n fendith cael dymuniadau gorau pawb yn ystod y flwyddyn,” meddai Sam Northeast wrth golwg360.
“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn rhagorol a dw i’n teimlo fy mod i wedi cael croeso cynnes gan bawb yn y clwb, o’r staff i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.
“Morgannwg yw fy nghartref i nawr.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda iawn, dw i wedi mwynhau fy nghriced ac o weithio gyda phobol fel Matt [Maynard, y prif hyfforddwr], sy’n un o fawrion y sir, dw i wedi ceisio dysgu cymaint â phosib ganddo fe.
“Dw i’n credu ein bod ni’n adeiladu rhywbeth arbennig yma, ac yn amlwg roedden ni wedi cael siom o golli allan o gyn lleied o bwyntiau yn y Bencampwriaeth, a hithau wedi mynd hyd at y belen olaf yn y gwpan undydd hefyd.
“Gobeithio nad ydyn ni’n rhy bell ohoni, ond dw i wedi dechrau fy ngyrfa’n dda gyda Morgannwg a gobeithio bod hynny’n para am amser hir.”
Wrth drafod ei gerrig milltir personol, mae’n dweud bod cyflawni’r gamp o sgorio 410 heb fod allan yn un “arbennig”.
O edrych yn ôl, mae hi’n eithaf arbennig cael bod ynghlwm wrth hanes rhywbeth o’r fath, ac mae’n rywbeth y galla i edrych yn ôl arno fe ag atgofion melys.
“Mae hi’n un o’r blynyddoedd gwallgof hynny gyda sawl uchafbwynt.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli [mawredd y gamp] tra fy mod i’n batio ar yr ail ddiwrnod hwnnw, ond pan wnes i gamu oddi ar y cae yn y nos, des i i wybod nad o’n i’n bell i ffwrdd o record Steve James ac ro’n i’n eithaf nerfus yn yr eiliad honno achos rydych chi eisiau bod yn rhan o hanes Morgannwg.
“Ond unwaith wnes i basio hynny, dyna ni, roedd yna ryddid wedyn i barhau i chwarae.
“Do’n i ddim yn sylweddoli cymaint roedd 400 yn ei olygu i fi tan y diwrnod canlynol. Byddwn i wedi cael siom fawr tasen i wedi bod allan yn y 390au, ond mae hi’n braf cael bod yn rhan o hanes Morgannwg.
“A gyda Lloydy yn dilyn i fyny gyda 300 arall, mae hi wedi bod yn flwyddyn wallgof ar gyfer sgoriau arbennig.
“Mae [sgôr undydd o 177 heb fod allan] yn mynd yn angof i raddau, ond roedd hwnnw’n ddiwrnod arbennig arall.
“Gyda hynny, ro’n i’n batio gyda Billy [Root] yng Nghaerwrangon a Cooky [Chris Cooke] yng Nghaerlŷr, sy’n gyd-chwaraewyr mor dda i’w cael ac maen nhw wedi bod yn wych ar gyfer taflu syniadau o gwmpas hefyd.”
Anrhydeddu Eifion Jones
Yn ystod y noson yng Ngwesty’r Towers, roedd cyfle i nodi carreg filltir arbennig ym mywyd Eifion Jones, un o fawrion Morgannwg, fu’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni.
Yn frawd i Alan Jones, chwaraeodd e i’r sir rhwng 1961 a 1983.
Fel batiwr y daeth e i amlygrwydd gyntaf, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn un o’r wicedwyr gorau – os nad y gorau – yn hanes y sir gan berchnogi’r menig yn 1968 tan ddiwedd ei yrfa.
Cipiodd e gyfanswm o 933 o ddaliadau a stympiadau, sy’n record i’r sir, ac oni bai am ddoniau chwaraewyr fel Bob Taylor ac Alan Knott, mae’n debyg y byddai wedi ennill cap dros Loegr ac fe fu bron iddo fe gael ei ddewis ar gyfer taith y Lludw yn 1970-71, flwyddyn ar ôl i Forgannwg ennill Pencampwriaeth y Siroedd am yr ail waith yn eu hanes.
Sgoriodd e 146 heb fod allan yn erbyn Sussex fel rhan o bartneriaeth drydedd wiced o 230 gyda’i frawd, a’i sgôr unigol yn record ar gyfer wicedwr i’r sir.
Chwaraeodd e 212 o weithiau mewn gemau cynghrair undydd i’r sir, sydd hefyd yn record ac erbyn diwedd ei yrfa, roedd e wedi cipio dros 1,000 o ddaliadau a stympiadau.
Dywedodd Eifion Jones, y Cymro Cymraeg o Felindre ger Abertawe, wrth golwg360 ar ddiwedd y noson ei fod e “wedi mwynhau’r noson fawr”, ac yntau wedi cael cyfle i weld cyflwyniad yn crynhoi uchafbwyntiau ei yrfa.
“Do’n i ddim yn gwybod fod gymaint o bobol yn mynd i droi lan.
“Ro’n i’n trio cofio ’nôl i’r amser ddechreuais i chwarae i Forgannwg ac roedd e’n braf.”
Yn ŵr bonheddig diymhongar a swil, mae’n dweud bod ei deulu wedi ei berswadio i fynd i’r cinio.
“Pwy wnaeth i fi ddod yma fwyaf oedd y ddwy wyres,” meddai.
“Roedden nhw’n cocsio fi i ddod, ac ro’n i’n meddwl alla i byth â gadael nhw lawr, a bod rhaid dweud rhywbeth a dyna beth wnaetho i, trio cadw pawb yn hapus yn gallu dweud rhywbeth.
“Roedd e’n wych ac yn neis i weld y fideo hefyd a meddwl ’nôl achos ti ddim yn cofio popeth, roedd gweld hwnna’n neis iawn.
“Ond mae pethau’n digwydd ar y cae criced dwyt ti byth yn anghofio.
“Fel wnes i ddweud ar y diwedd, bues i’n lwcus i chwarae yn erbyn lot o chwaraewyr i Forgannwg, chwaraewyr gwych i Forgannwg ac yn erbyn Morgannwg, bois fel Vivian Richards, Barry Richards o Hampshire, gallen i fynd ymlaen, Rohan Kanhai. Mae cymaint fel bo ti ddim yn cofio nhw i gyd, chwaraewyr gwych.”
Beth, tybed, oedd uchafbwynt ei yrfa iddo fe?
“Y Bencampwriaeth yn 1969, a maeddu’r Australians yn ’64 a ’68. Aethon ni i Lord’s yn ’77 [ar gyfer rownd derfynol Cwpan Gillette yn erbyn Middlesex], enillon ni ddim y gêm ond roedd hwnna’n brofiad hefyd.”