Bydd swydd prif hyfforddwr tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru’n cael ei rhannu yn ystod tymor 2023, ar ôl i Darren Thomas ildio’r rôl ar gyfer gemau pêl goch.

Cafodd cyn-fowliwr cyflym Morgannwg ei benodi i swydd y prif hyfforddwr yn 2012, ac fe chwaraeodd e am bum mlynedd cyn ymddeol er mwyn canolbwyntio ar hyfforddi yn unig.

Ers hynny, mae’r tîm wedi cyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth 50 pelawd sawl gwaith, a’r rownd gyn-derfynol y llynedd.

Un o’i brif lwyddiannau oedd helpu i ddatblygu chwaraewyr sydd wedi mynd yn eu blaenau i chwarae criced dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan gynnwys y capten David Lloyd, Ruaidhri Smith, Lukas Carey, Owen Morgan, Prem Sisodiya, Callum Taylor, Connor Brown, Kieran Bull, Jeremy Lawlor, Aneurin Donald a Tom Bevan.

Yn ystod tymor 2022, roedd Darren Thomas wrth y llyw wrth i dîm dan 18 Cymru ennill y Gwpan T20 Genedlaethol, a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth 50 pelawd, gyda Ben Morris, Ben Kellaway, Callum Nicholls a Harry Friend i gyd wedi torri trwodd i’r tîm cyntaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

O dan arweiniad Darren Thomas, mae’r tîm wedi datblygu’n sylweddol mewn gemau undydd.

‘Eithriadol o falch’

“Mae dros ddegawd ers i fi gael derbyn y cyfle i fod yn fentor a phrif hyfforddwr ar y cae ar gyfer yr hyn oedd Siroedd Llai Cymru,” meddai Darren Thomas.

“Y weledigaeth ar y cyd oedd helpu i ddatblygu chwaraewyr ifainc Cymreig i fynd yn eu blaenau i chwarae i Forgannwg – gan helpu i bontio rhwng y llwybrau, yr academi a’r prifysgolion a’r amgylchfyd proffesiynol.

“Rhan ohono fe hefyd oedd creu amgylchfyd lle roedd chwaraewyr yn dod i mewn ac yn teimlo’n rhan o’r peth ac wedi ymlacio.

“Dw i’n eithriadol o falch o fod wedi chwarae rhan fach wrth ddatblygu nifer o chwaraewyr sydd wedi mynd yn eu blaenau i chwarae’n broffesiynol, yn ogystal â’r chwaraewyr hynny sydd wedi gwireddu eu potensial ac wedi aros yn ffyddlon i’r tîm siroedd cenedlaethol dros y blynyddoedd.

“Mae sawl rheswm pam dw i wedi penderfynu camu’n ôl o fod yn hyfforddwr pêl goch ar gyfer tymor 2023, ac un ohonyn nhw yw gorlifo gemau tridiau a charfan dan 18 Cymru, sy’n fy ngadael i’n methu bod mewn dau le ar yr un pryd.

“Ond dw i wedi penderfynu parhau i ddatblygu tîm pêl wen Siroedd Cenedlaethol Cymru – yn sicr, mae gyda ni’r chwaraewyr i fod yn llwyddiannus yn y T20 a’r gystadleuaeth 50 pelawd, ac adeiladu ar y ddau dymor diwethaf a dod yn fwy ymosodol yn y gemau allweddol fydd y bwriad yn 2023.”

Brad Wadlan

Y prif hyfforddwr newydd ar gyfer gemau pêl goch yw Brad Wadlan, ac fe fydd e’n chwarae ac yn hyfforddi ar yr un pryd.

Bydd e ar gael ym mhob fformat y tymor nesaf, ac yn cynorthwyo Darren Thomas mewn gemau undydd.

Yn 33 oed, dychwelodd Brad Wadlan i garfan Cymru sawl gwaith y tymor diwehtaf, a’u helpu nhw i guro Dyfnaint mewn gêm dridiau yn y Fenni, wrth iddo fe daro canred a chipio 12 wiced mewn gêm.

Sgoriodd e hanner canred wedyn yn erbyn Wiltshire ym Mhanteg.

Mae ganddo fe gryn brofiad hefyd gyda Chernyw a Sir Henffordd, yn ogystal â dau gyfnod gyda Chymru.

Fe fu’n allweddol wrth arwain Abertawe i uchelfannau Uwch Gynghrair De Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae e hefyd yn rhan o dîm hyfforddi tîm dan 18 Cymru gyda Darren Thomas.

“Dw i wrth fy modd o gael y cyfle i arwain Siroedd Cenedlaethol Cymru fel prif hyfforddwr mewn criced pêl goch,” meddai.

“Dw i’n angerddol ynghylch datblygu criced yng Nghymru a gweithio gyda’r doniau gorau sydd gyda ni ar y llwybrau a ledled y cynghreiriau amrywiol yng Nghymru.

“Mae’n gyfnod cyffrous gyda llwyddiant a chynnydd diweddar y tîm hwn dros y blynyddoedd diwethaf, a byddwn ni’n ceisio adeiladu ar hyn yn ystod misoedd y gaeaf.”