Mae adroddiadau bod dyfodol y Cymro Steve Cooper yn rheolwr ar dîm pêl-droed Nottingham Forest yn y fantol.

Mae’r wefan Nottingham Live yn adrodd bod y clwb wedi tynnu cynnig o gytundeb newydd yn ôl, ar ôl dechreuad gwael y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Cafodd Cooper, sy’n hanu o Gwm Rhondda, ei benodi fis Medi y llynedd, pan oedd y clwb ar waelod y Bencampwriaeth, ond fe wnaeth e eu harwain nhw i ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Dim ond un gêm maen nhw wedi’u hennill allan o wyth hyd yn hyn y tymor hwn, ac maen nhw ar waelod y tabl gyda dim ond pedwar o bwyntiau.

Daw hynny ar ôl i’r clwb wario £146m ar 23 o chwaraewyr newydd yn sgil nifer sylweddol o ymadawiadau.

Ond mae Steve Cooper wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Wolves hefyd, ac fe allai hynny gynnig dihangfa i’r Cymro wrth i Evangelos Marinakis, cadeirydd Nottingham Forest, ystyried diswyddo staff o’r top i’r gwaelod yn y clwb.

Yn dilyn eu dyrchafiad, cafodd trafodaethau eu cynnal ynghylch cytundeb newydd ac roedd lle i gredu dros yr haf fod yna gytundeb yn barod ar gyfer y rheolwr.

Ond yn dilyn pum colled o’r bron, mae cwestiynau mawr am ddyfodol Steve Cooper a’i dîm hyfforddi a recriwtio, gyda chytundeb y rheolwr yn dod i ben ymhen 12 mis.

Hyd yn hyn, mae Steve Cooper wedi gwrthod trafod y sefyllfa’n gyhoeddus, gan ddweud eu bod nhw fel clwb yn ceisio datrys y sefyllfa.