Ar drothwy gêm ei dîm yn erbyn Llanymddyfri nos fory (nos Iau, Hydref 6), mae Jason Strange, prif hyfforddwr Glyn Ebwy, yn dweud bod safonau Uwch Gynghrair Rygbi Cymru’n “wyrthiol” o ystyried diffyg cyllid.

Fe fu’r cyn-faswr yn hyfforddwr cicio tîm rygbi’r gynghrair St. Helens wrth iddyn nhw ennill y Super League am y pedwerydd tymor yn olynol, ond mae e wedi dychwelyd i dde-ddwyrain Cymru i ganolbwyntio ar rygbi’r undeb am y tro.

Bydd y gêm rhwng Glyn Ebwy a Llanymddyfri’n cael ei darlledu’n fyw ar S4C Clic, tudalen Facebook Rygbi S4C a sianel YouTube S4C.

Gyda’r arian canolog sy’n dod gan Undeb Rygbi Cymru wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, mae Jason Strange yn mynnu mai’r gynghrair yw “trysor” rygbi Cymru, ac nad yw’n cael ei gwerthfawrogi ddigon.

“Dw i’n credu bod y safon hyd yn hyn y tymor hwn wedi bod yn dda iawn,” meddai.

“Mae pobol yn sôn am safonau cymharol â chynghreiriau eraill, ond yr hyn mae pobol yn ei anghofio yw fod Uwch Gynghrair Cymru wedi mynd o roi £130,000 i bob clwb bob tymor i ddim ond £60,000.

“Mae’r hyn mae clybiau’r Uwch Gynghrair yn ei gyflawni ar £60,000 yn wyrth fach.

“Pan dw i’n gweld y miliynau sy’n cael ei wario ar feysydd eraill ac yn edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, dw i wedi fy syfrdanu.

“Dylai pobol ddeall fod £60,000 jyst â thalu am gostau teithio ac un ffisiotherapydd.”

Y gynghrair yn ffynnu

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru elw o £3.2m ar gyfer 2022 yr wythnos hon.

Ac er gwaetha’r sefyllfa gyllido, mae’r clybiau a’r Uwch Gynghrair yn mynd o nerth i nerth, gyda thorfeydd yn fawr, mwy o sylw i gemau ar y teledu a chynghrair sy’n gystadleuol wrth ddenu chwaraewyr o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC).

Aberafan sydd ar frig y tabl, ond mae Llanymddyfri’n drydydd gyda thair buddugoliaeth allan o dair yn ddiweddar, tra bod Glyn Ebwy wedi colli un gêm yn unig, yn erbyn y pencampwyr Caerdydd er eu bod nhw ar y blaen am rannau helaeth o’r gêm ar Barc yr Arfau.

Mae Jason Strange yn fodlon iawn â pherfformiadau ei dîm hyd yn hyn yn dilyn haf digon ansefydlog i’r clwb.

“Daethon ni â 26 o chwaraewyr i mewn i gyd, felly roedd yn drosiant enfawr,” meddai.

“Ond mae’r ffordd mae’r chwaraewyr hyn wedi cysylltu â’i gilydd ac wedi asio wedi bod yn wych ac yn rywbeth dw i’n falch iawn ohono fe.

“Maen nhw wedi prynu i mewn i’r hyn yw’r clwb – gan roi’r tîm yn gyntaf a deall pa fath o glwb a thîm rydyn ni eisiau bod.

“Yr amgylchfyd a chael hynny’n iawn yw’r peth pwysicaf bob amser.

“Ond mae Llanymddyfri bob amser yn glwb cryf, clwb solet yn Uwch Gynghrair Cymru sydd wedi cael eu hyfforddi’n dda gan Euros Evans erioed.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n her wirioneddol i ni.”

Proffesiynoldeb yn talu ar ei ganfed i Lanymddyfri

Mae Llanymddyfri hefyd wedi elwa ar amgylchfyd proffesiynol llawn amser y tymor hwn.

Ymhlith y chwaraewyr mwyaf dylanwadol yn y garfan mae Adam Warren, cyn-ganolwr 31 oed y Scarlets a gafodd ei ryddhau gan y Dreigiau dros yr haf.

Er ei fod e’n teimlo bod y penderfyniad i’w ryddhau’n “anghyfiawn”, mae e wedi bwrw iddi wrth gyfuno rygbi lled-broffesiynol gyda swydd newydd yn hyfforddi olwyr Coleg Llanymddyfri ac yn gyfrifol am gryfhau a chyflyru’r garfan.

“Dw i wir yn ei mwynhau,” meddai am y swydd.

“Mae’n rhaid i fi ymgyfarwyddo â’r byd go iawn, gan ymroi i oriau yn ystod y dydd ac yna hyfforddi yn aml yn y nos.

“Mae hi weithiau fel bod gen i ddwy swydd, ac mae’n gallu bod yn anodd.

“Ond dw i’n mwynhau fy rygbi ac yn chwarae â gwên ar fy wyneb unwaith eto.

“Allwn i ddim bod yn hapusach gyda’r swydd yn ystod y dydd. Mae’n amgylchfyd gwych ac mae cyfle i fi fynd i lawr y trywydd dysgu hefyd.

“Mae rhai eiliadau pan dw i’n gwylio’r gêm broffesiynol ac yn teimlo ym mêr fy esgyrn fy mod i’n ddigon da i fod yno o hyd.

“Ond yn feddyliol, dw i’n teimlo fy mod i mewn lle llawer gwell na rhai o’r bois sy’n dal i chwarae rygbi’n llawn amser. Allwn i ddim wir bod yn hapusach.

“Do’n i ddim yn disgwyl i fy ngyrfa rygbi lawn amser ddod i derfyn mor sydyn ag y gwnaeth hi. Ond o ran y ffordd mae pethau wedi cwympo, dyna oedd y ffordd orau ymlaen i fi symud allan.”