Mae clwb criced yng Nghaerdydd wedi derbyn dros £5,000 trwy ymgyrch ar-lein ar ôl iddyn nhw ddioddef difrod hiliol yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd adeilad Clwb Criced Llandaf ei agor gan ddau o hyfforddwyr tîm merched y clwb, ac fe ddaethon nhw o hyd i arwyddion Natsïaidd a geiriau hiliol wedi’u paentio ar ôl i’r sawl oedd yn gyfrifol dorri i mewn i’r clwb.
Yn ôl y clwb, roedd yn ymgais i’w “bygwth” nhw, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “benderfynol o ddod yn ôl yn gryfach”.
“Rydyn ni eisiau troi’r eiliad hon o boen yn eiliad o obaith,” meddai’r clwb ar dudalen GoFundMe sydd wedi denu dros £5,000 ar ôl iddyn nhw osod targed o £10,000.
“Rydyn ni’n galw ar y gymuned i’n cefnogi ni wrth godi arian ar gyfer cyfleusterau modern, diogel o safon uchel mae’r bobol sy’n eu defnyddio nhw’n deilwng ohonyn nhw.”
Mae’r clwb yn dweud y bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd at y gronfa Bounce Back Better, fydd yn cefnogi’r clwb wrth iddyn nhw gwblhau eu prosiect datblygu ar ôl blynyddoedd o geisio gwella’u cyfleusterau.
Ond maen nhw’n dweud bod angen £20,000 yn rhagor er mwyn gwireddu’r cynlluniau.
“Mae’n syml: mae gwell cyfleusterau’n golygu bod bywydau mwy o blant yn cael eu newid trwy griced,” meddai’r clwb ar y dudalen.
“Plîs cyfrannwch beth allwch chi, rhannwch a dywedwch wrth bobol yn eich cymuned am Landaf – y clwb criced sy’n ehangu mynediad at griced, yn pontio rhaniadau yn y gymdeithas ac yn sefyll i fyny i fandaliaid hiliol llwfr.”