Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Rheolwr y Mis y Bencampwriaeth ar gyfer mis Medi.

Mae’n un o bedwar ar y rhestr fer, ochr yn ochr â Dean Smith (Norwich), Paul Heckingbottom (Sheffield United) a John Eustace (Birmingham).

Fe ddaw ar ôl buddugoliaethau’r Elyrch dros QPR a Hull yn ystod y mis pan wnaethon nhw ildio dim ond un gôl.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi fory (dydd Gwener, Hydref 7).

Canmol Ben Cabango

Ben Cabango
Ben Cabango

Ac mae mis Hydref wedi dechrau’n dda i’r Elyrch hefyd, gyda buddugoliaethau dros West Brom a Watford.

Daeth y gôl fuddugol yn erbyn Watford neithiwr (nos Fercher, Hydref 5) gan Ben Cabango, ac mae ei reolwr wedi bod yn canu clodydd y Cymro Cymraeg.

Ers gwella o anaf i’w ffêr fis Awst, mae’r amddiffynnwr canol wedi dod yn ôl ar ei orau, gan barhau i wthio am le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar.

Cafodd Cabango sawl cyfle i rwydo neithiwr, ond fe ddaeth ei gôl gynta’r tymor hwn wrth iddo fe daro cic rydd Ryan Manning i’r rhwyd oddi ar ei ben yn ystod wythfed munud yr 17 munud o amser ychwanegol yn y gêm.

“Dw i mor falch drosto fe,” meddai Russell Martin.

“Mae Andy Parslow (yr hyfforddwr chwarae gosod) wedi cael llawer o sgyrsiau gyda fe.

“Dylai Ben fod wedi cael gôl neu ddwy cyn hyn.

“Dw i ddim eisiau rhoi unrhyw bwysau arno fe, ond mae e’n un o’r amddiffynwyr canol gorau ar y lefel yma, yn fy marn i, o ran yr hyn mae e’n ei wneud nawr, pa mor bell mae e wedi dod a faint mae e wedi gwella.

“Mae e wir wedi datblygu cymaint.”