Mae tîm pêl-droed merched Cymru’n “barod i roi popeth” yn y gêm ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Bosnia-Herzegovina heno (nos Iau, Hydref 6), yn ôl y chwaraewr canol cae, Angharad James.

Mae Cymru’n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Byddan nhw’n chwarae gerbron y dorf fwyaf erioed yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ar ôl gwerthu dros 14,500 o docynnau.

Mae’r gic gyntaf am 7:15yh.

Pe bai merched Gemma Grainger yn fuddugol, byddan nhw’n teithio wedyn i’r Swistir ar gyfer y ffeinal ddydd Mawrth (Hydref 11).

Bydd dau o’r tri thîm Ewropeaidd sy’n ennill rownd derfynol eu gemau ail gyfle yn ennill lle awtomatig yng Nghwpan y Byd 2023, sy’n cael ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd.

Ond pe bai Cymru’n un o’r rheiny, a hwythau’n un o ddetholion isaf y gemau ail gyfle, mae’n debygol y byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu un rownd arall o gemau ail gyfle fis Chwefror nesaf, yn erbyn tîm o gyfandir arall.

‘Mor agos’

“Dyma pam rydyn ni i gyd yn chwarae pêl-droed,” meddai Angharad James.

“Rydyn ni gyd eisiau cyrraedd Cwpan y Byd, dyna beth rydyn ni’n chwarae amdano.

“Mae gennym ni gyfle da, rydyn ni mor agos i gyflawni hynna.

“Rydyn ni’n ei chymryd hi un gêm ar ôl y llall.

“Mae Bosnia yn dîm da, rydyn ni wedi gwylio llawer iawn o glipiau ac rydyn ni’n gwybod beth yw eu cryfderau nhw a sut rydyn ni’n gallu ennill y gêm.

“Rydyn ni’n barod ac yn edrych ymlaen at gamu ar y cae a gobeithio y gallwn ni gael y canlyniad rydyn ni’n edrych amdano.”