Mae tîm pêl-droed merched Cymru gam yn nes eto at gyrraedd Cwpan y Byd, diolch i gôl Jess Fishlock yn y fuddugoliaeth o 1-0 dros Bosnia a Herzegovina yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Hydref 7).

Daeth y gôl dyngedfennol yn yr amser a ganiateir am anafiadau, a bydd tîm Gemma Grainger yn herio’r Swistir yn eu hail gêm ail gyfle nos Fawrth (Hydref 11) yn Zurich.

Dydy Cymru erioed wedi cymhwyso o’u grŵp rhagbrofol, ac felly roedden nhw eisoes wedi creu hanes cyn iddyn nhw ddiddanu’r dorf o 15,200 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd pedair gôl Cymru eu dileu oherwydd camsefyll ac fe lwyddon nhw i daro’r postyn hefyd, ac fe ddalion nhw eu tir i sicrhau’r canlyniad hollbwysig.

Ar ôl y gêm, dywedodd Jess Fishlock fod ganddi “emosiynau cymysg”, a’i bod hi wedi gweld “eiliad ffenomenaidd” nad oedd hi erioed wedi’i dychmygu.

Daeth ei gôl fawr yn ystod hanner cynta’r amser a ganiateir am anafiadau, wrth iddi symud tuag at y postyn agosaf i daro foli o gic rydd i mewn i’r rhwyd.

Cafodd ei chanmol gan Gemma Grainger, a ddywedodd fod “chwaraewyr mawr yn troi i fyny ar gyfer gemau mawr”.

Cafodd dwy gôl Kayleigh Green eu canslo oherwydd camsefyll, yn ogystal ag ergydion gan Fishlock a Ffion Morgan, ond fydd Cymru ddim yn poeni’n ormodol wrth i’w hymgyrch barhau i fagu coesau.