Mae’r Mentrau Iaith yn lansio cystadleuaeth dylunio het bwced fel rhan o’r gweithgareddau sy’n arwain at Gwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar.
Bydd yr enillydd yn derbyn cyflenwad o hetiau gyda’r dyluniad buddugol ar gyfer y dosbarth cyfan.
Mae’r gystadleuaeth yn agor heddiw (dydd Gwener, Hydref 7), ar gyfer plant a phobol ifanc hyd at 18 oed.
Bydd y Mentrau Iaith yn derbyn dyluniadau tan 12yp ar Hydref 26, ac wedyn bydd y tri beirniad – Sioned Dafydd, Geraint Lovgreen a Tim Williams – yn trafod y ceisiadau cyn cyhoeddi’r enillydd ganol mis Tachwedd.
Mae gan y tri beirniad berthynas arbennig â phêl-droed ac maen nhw’n frwdfrydig iawn dros dîm Cymru a chyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar.
“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle unigryw i’r person lwcus weld eu dyluniad ar het bwced ei hun!” meddai Sioned Dafydd.
“Baswn i wrth fy modd cael creu darlun arbennig – ond dwi’n rhy hen yn anffodus!”
Mae rhai o blant tîm pêl-droed yr Elyrch yn Abertawe wedi rhoi cynnig yn barod ar ddylunio mewn sesiwn gydag Ameer Davies-Rana, sy’n esbonio manylion y gystadleuaeth mewn fideo arbennig sydd ar wefan y Mentrau Iaith.
Mae’r Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol yn ymgyrch Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.
Bydd mwy o weithgareddau’n cael eu lansio yn yr wythnosau nesaf gan gynnwys sesiynau cerddorol cymunedol, cyfres o furluniau ar draws Cymru ac adnoddau addysgiadol hwyliog.
“Er mwyn cystadlu mae templed arbennig i’r gystadleuaeth i’r plant allu mynd ati i ddylunio,” meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru.
“Rydym yn gofyn i’r rhieni dynnu llun neu wneud sgan o’r dyluniad a’i anfon atom trwy e- bost at hetbwced2022@mentrauiaith.cymru gan gynnwys enw llawn y plentyn, eu hardal a’r oedran. Mae’r templed, y manylion cyswllt a’r rheolau ar gyfer y gystadleuaeth ar gael ar ein gwefan www.mentrauiaith.cymru, ein cyfryngau cymdeithasol a gan y Mentrau Iaith yn lleol.”