Mae Kayleigh Powell yn gobeithio achub ar ei chyfle yn nhîm merched rygbi Cymru, wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd yn erbyn yr Alban ddydd Sul (Hydref 9).
Mae disgwyl iddi ddechrau yn safle’r cefnwr yn Whangarei, Seland Newydd, y tro cyntaf i’r chwaraewraig 23 oed chwarae yng Nghwpan y Byd. Ac mae’n dod yn fuan ar ôl i’r rhan fwyaf o’r garfan droi’n broffesiynol.
Ar ôl llofnodi ei chytundeb newydd, mae hi wedi gallu treulio mwy o oriau’n ymarfer ei sgiliau, gan gynnwys ei chicio gyda’r hyfforddwr Stephen Myler sydd, meddai, wedi bod “yn help enfawr”.
Mae Kayleigh Powell yn un o saith o chwaraewyr o dîm Bryste yn y garfan ar gyfer y gêm fydd yn cael ei darlledu’n llawn ar S4C rai oriau wedi’r gêm.
Dydy cicio erioed wedi bod yn un o gryfderau Cymru, ac mae’n sicr yn ardal lle byddai’r tîm wedi bod yn ceisio gwella wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y twrnament.
Ond mae ei gwaith personol wedi talu ar ei ganfed i Kayleigh Powell.
“Hwn yw’r newid mwyaf dw i wedi’i weld yn fy sgiliau ers gweithio gyda Stephen,” meddai.
“O gael yr un sesiwn honno gyda fe bob wythnos, mae’r manylion y gallwn ni edrych arnyn nhw wedi bod yn help enfawr.
“Dw i’n gwybod ei fod e’n swnio’n hawdd, ond mater o ddeall sut i gicio pêl yw e, y safleoedd paratoadol a’r onglau – meicro-fanylion ydyn nhw sydd wir yn helpu.
“Mae popeth jyst wedi clicio i fi’n ddiweddar a bod yn onest, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy cael Stephen gyda ni.”
Troi’n broffesiynol
Fel pob aelod llawn amser arall yn y garfan, mae Kayleigh Powell o Lantrisant wedi bod yn broffesiynol ers naw mis a does dim angen iddi fod yn gwasgu’r sesiynau ymarfer i mewn i’w diwrnod erbyn hyn.
Roedd effaith troi’n llawn amser i’w weld ar unwaith, wrth i Gymru guro Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yna’r Alban.
Roedd tair colled wedyn, ond mae’r gwelliannau i’w gweld, ac mae’n golygu mai Cymru fydd y ffefrynnau i guro’r Alban unwaith eto.
“Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth,” meddai Kayleigh Powell, sydd hefyd wedi chwarae pêl-droed a chriced yn y gorffennol.
“Ro’n i’n siarad â rhai o’r olwyr yn gynharach, ac roedden ni jyst yn dweud nad ydyn ni erioed wedi bod mor barod ar gyfer gêm.
“Dydyn ni erioed wedi cael cymaint o amser i edrych ar y dadansoddi nac wedi gallu canolbwyntio ar adferiad, felly mae wedi bod yn wych.
“Ro’n i’n ran-amser ym mis Ionawr, ro’n i’n hyfforddi’r Gweilch yn y gymuned, ond roedd yn wahanol iawn i gydbwyso hynny â rygbi proffesiynol.
“Roedd rhaid i fi ffitio pum niwrnod o waith i mewn i dri, felly roedd yn amser llawn straen. Ond byddwn i wedi gwneud unrhyw beth er mwyn cael bod yma.
“Diolch byth, mae gen i ddigon o amser nawr i baratoi, mae’r straen wedi mynd a galla i ganolbwyntio ar fod y gorau alla i fod ar y cae yn cynrychioli fy ngwlad.”
Yr Alban a Chwpan y Byd
Tri grŵp o bedwar tîm fydd yn cystadlu am Gwpan y Byd eleni.
Dim ond pedwar allan o’r 12 tîm sy’n mynd allan ar ôl y grwpiau, felly bydd gan bwy bynnag sy’n ennill y gêm rhwng Cymru a’r Alban siawns dda o gymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf, er bod Awstralia a Seland Newydd hefyd yn eu grŵp.
Mae Ioan Cunningham, hyfforddwr Cymru, wedi pwysleisio pwysigrwydd bwrw iddi ar unwaith yn y gystadleuaeth, fel tîm ac fel unigolion.
“Mae ‘anadlu tân’ yn un o’r delweddau mae Ioan yn eu defnyddio ar hyn o bryd,” meddai Kayleigh Powell.
“I fi, anadlu tân yw pan dw i’n cyfro’r cefn, mae angen i fi fod yn effro ac yn bositif o’r eiliad dw i’n cyffwrdd â’r bêl.
“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol fod y gêm gyntaf yn gêm derfynol fach i ni, rydyn ni’n gwybod fod rhaid i ni ei hennill hi.
“Mae angen i ni ddechrau’r twrnament yn dda, ac rydyn ni eisiau dangos ein bod ni’n benderfynol ar unwaith yn y gemau.
“Gobeithio y gallwn ni barhau am y 60-80 munud i gael y fuddugoliaeth a mynd â’r hyder yna i mewn i weddill y twrnament.”
Anafiadau
Roedd Kayleigh Powell wedi gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd yn 19 oed y tro diwethaf, ond cafodd hi gyfres o anafiadau fel ei bod hi ond wedi ennill 11 cap dros gyfnod o dair blynedd.
“Dw i ddim yn gwybod sut deimlad fydd e, ond dw i’n dychmygu y bydd e’n emosiynol iawn,” meddai wrth feddwl am ei phrofiad cyntaf yng Nghwpan y Byd.
“Ro’n i’n meddwl y byddwn i’n mynd i Gwpan y Byd y tro diwethaf, ond fel gollais i allan, felly mae hi wedi bod yn daith hyd yn oed yn hirach i gyrraedd y fan yma.
“Dw i wedi cael llawer o anafiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, felly mae wedi bod yn gyfnod anodd i fi’n bersonol.
“Mae’r Cwpan Byd yma wedi dod ar yr adeg iawn, yn ffodus iawn, pe bai e wedi dod yr adeg yma’r llynedd, byddwn i wedi anafu felly dw i’n ddiolchgar iawn fy mod i yma.
“Mae’n mynd i fod yn brofiad swreal ac mae’n sicr yn mynd i fod yn emosiynol pan fydd yr anthem yn chwarae.
“Bydd fy nheulu’n gwylio gartref, felly mae’n eiliad falch iawn.”
‘Mae’n dda bod gêm yr Alban yn gyntaf’
Yn ôl y gyflwynwraig Heledd Anna, “mae’n dda bod gêm yr Alban yn gyntaf” er mwyn gosod y seiliau ar gyfer y gystadleuaeth.
“Dw i’n meddwl allwn ni fod yn obeithiol iawn,” meddai am ymgyrch Cymru.
“Mae’n dda bod gêm yr Alban yn gyntaf, mae Cymru’n mynd i mewn i hon ar ôl eu curo nhw ’nôl yn y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, felly bydd gan Gymru hyder ond mae’n mynd i fod yn emosiynol iawn i’r Alban.
“Maen nhw’n cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 2010.
“Mae’n mynd i fod yn gêm emosiynol iawn ond yn gêm dw i’n gobeithio all Cymru ei hennill.
“Ond dw i ddim yn meddwl fydd hi’n gêm hawdd.
“Bydd hi’n gêm gystadleuol, ond os ydy Cymru’n ennill y gêm gynta’, mae’n rhoi sylfaen gwych ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.”
- Bydd Cymru yn erbyn yr Alban yn cael ei darlledu fore Sul am 5.30yb ar S4C Clic, tudalen Facebook S4C Rygbi a sianel YouTube S4C, a bydd y gêm yn cael ei dangos yn llawn ar S4C am 5.15yh.