Mae tîm rygbi merched Cymru wedi dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd gyda buddugoliaeth o 18-15 dros yr Alban.

Roedd yn rhaid aros tan 83 o funudau i mewn i’r ornest i selio’r fuddugoliaeth, wrth i Keira Bevan gamu i fyny i sgorio’r triphwynt tyngedfennol oddi ar gic gosb, a hynny ar ôl i Jaz Joyce weld cerdyn melyn am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol wrth i’r crysau cochion fynd i lawr i 14 o chwaraewyr ym munudau ola’r gêm.

Roedd hi’n edrych yn debygol am gyfnod fod yr Alban wedi achub gêm gyfartal wrth i Megan Gaffney groesi am gais i unioni’r sgôr wrth daro’n ôl ar ôl i Alisha Butchers a Kayleigh Powell groesi am geisiau i Gymru yn yr hanner cyntaf.

Cafodd Elinor Snowsill ei henwi’n seren y gêm am reoli’r chwarae yn safle’r maswr, tra bod ei gwrthwynebydd Helen Nelson wedi cael noson siomedig yn Whangarei, wrth iddi fethu â phob ymgais at y pyst.

Bydd Cymru’n herio Seland Newydd ddydd Sul nesaf (Hydref 16), ac Awstralia y dydd Sadwrn canlynol (Hydref 22) ac mae dechrau gyda buddugoliaeth wedi eu rhoi nhw mewn sefyllfa gref i gymhwyso, er bod ganddyn nhw’r ornest anodd yn erbyn y Crysau Duon, sy’n un o ddau ffefryn, ynghyd â Lloegr, i ennill y gystadleuaeth.