Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Croatia, Armenia, Twrci a Latfia yng Ngrŵp D wrth iddyn nhw geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2024.
Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het fore heddiw (dydd Sul, Hydref 9).
Mae Cymru wedi cymhwyso ar gyfer y twrnament y ddau dro diwethaf, ar ôl ymddangos yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed yn 2016 a chyrraedd y rownd gyn-derfynol o dan arweiniad Chris Coleman, ac eto yn 2021 ar gyfer Ewro 2020 o dan reolaeth Rob Page.
Mae Rob Page yn dweud ei fod e’n “eithaf bles” gyda’r grŵp rhagbrofol.
“Rydyn ni wedi osgoi ambell dîm fel Gwlad Belg, yr ydyn ni wedi chwarae yn eu herbyn nhw dipyn dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai wrth y BBC.
“Os ydych chi’n ceisio darogan pa dimau fyddai’n well gennych chi o’u cymharu ag eraill, dydyn ni ddim yn bell ohoni.
“Ar y cyfan, eithaf bles.”