Sicrhau buddugoliaeth, waeth beth yw’r sgôr, fydd blaenoriaeth tîm pêl-droed merched Cymru a’u rheolwr Gemma Grainger heno (nos Fawrth, Hydref 11, y gic gyntaf am 6 o’r gloch) wrth iddyn nhw barhau i geisio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Mae’r rheolwr yn pwysleisio bod angen dangos yr un math o feddylfryd ag sydd wedi arwain at lwyddiant hyd yn hyn yn yr ymgyrch.

“Rydyn ni’n targedu buddugoliaeth,” meddai.

“Rydyn ni bob amser yn mynd i fynd allan i ennill, ond dydy gan faint o goliau ddim wir yn ein meddyliau ni.

“Yr un cynllun yw e ar gyfer y gêm, yr un elfen o gystadleuaeth, yr un math o feddylfryd.

“Byddwn i’n hapus â buddugoliaeth o 1-0.

“Os oes angen i ni fynd i chwarae gêm arall yn Seland Newydd, byddwn i’n derbyn hynny ar hyn o bryd.”

Pe baen nhw’n ennill y gêm ail gyfle hon heno, gallai Cymru’n cyrraedd twrnament merched am y tro cyntaf erioed, ond mae angen iddyn nhw ennill o ddwy gôl neu fwy er mwyn bod yn sicr o’u lle.

Fel arall, mae’n debygol y bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Seland Newydd i chwarae gêm ail gyfle arall ddechrau’r flwyddyn nesaf.

“Dydyn ni ddim yn gwybod ai hon fydd ein gêm olaf ni, ond yr hyn rydyn ni’n edrych ymlaen ato yw sicrhau ein bod ni’n gweithredu yn y gêm hon, a rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny.

“Mae gyda ni feddylfryd a chred y byddwn ni’n cystadlu yn erbyn unrhyw un, ac rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny.”

Paratoadau

Mae’r garfan wedi bod yn paratoi ar gyfer y gêm ers iddyn nhw lanio yn Zurich yn y Swistir ddydd Sul (Hydref 9).

Fe fuon nhw’n ymarfer yn y Stadion Letzigrund y diwrnod canlynol (dydd Llun, Hydref 10).

Bydd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn cael eu cynnal yn Awstralia a Seland Newydd haf nesaf, ond dydy taith Cymru i geisio cymhwyso ddim yn un hawdd.

Mae’r gêm rhwng Cymru a’r Swistir yn un o dair gêm ail gyfle heno, wrth i Bortiwgal herio Gwlad yr Iâ, gyda’r Alban yn croesawu Gweriniaeth Iwerddon, gyda’r ddwy wlad mewn safle cryfach na Chymru i gymhwyso ar hyn o bryd.

Mae hynny’n golygu y gall fod angen gêm ychwanegol ar Gymru ym mis Chwefror, ac y gallen nhw fod yn yr het gyda Taipei Tsieina, Gwlad Thai, Camerŵn, Haiti, Senegal, Panama, Chile, Paragwai a Papwa Guinea Newydd.

Ond pe bai modd ennill o ddwy neu ragor o goliau, a bod Portiwgal a’r Alban yn cymhwyso ar ôl ciciau o’r smotyn, yna byddai tîm Gemma Grainger yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd heb fod angen gêm ail gyfle arall.