Y Cymro Gerwyn Price yw’r chwaraewr dartiau sy’n derbyn y ganran uchaf o sylwadau negyddol ar-lein, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl yr ymchwil gan Gambling.com, roedd 23.8% o’r sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein am y chwaraewr o Sir Gaerffili dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhai negyddol.

Fodd bynnag, roedd 37.4% o’r sylwadau amdano ar Twitter a fforymau Reddit yn rhai cadarnhaol.

Mervyn King ac Ian White, ill dau o Loegr, oedd â’r canrannau uchaf o sylwadau negyddol fel arall, gyda 17.2% a 11.7% o’r negeseuon amdanyn nhw’n rhai anffafriol.

Ar y pegwn arall, Simon Whitlock o Awstralia oedd y chwaraewr mwyaf poblogaidd, gyda 56.1% o’r sylwadau amdano’n rai cadarnhaol.

Damon Heta, hefyd o Awstralia ddaeth yn ail, a’r Albanwr Peter Wright ddaeth yn drydydd.

Dim ond 1.9% o’r sylwadau am y Cymro Jonny Clayton, y pumed chwaraewr mwyaf poblogaidd, oedd yn rhai negyddol, tra bod 48.1% o’r negeseuon amdano’n rai cadarnhaol.

Cafodd technoleg Linkfluence ei defnyddio er mwyn canfod y data, gan ddadansoddi enw pob chwaraewr ochr yn ochr â geiriau, dywediadau, hashnodau ac emojis sy’n cael eu hystyried yn rhai negyddol a chadarnhaol.