Y Cyfarwyddwr Chwaraeon Darren Kelly fydd wrth y llyw ar gyfer gêm bêl-droed Casnewydd yn erbyn Crawley ddydd Sadwrn (Hydref 15).

Daw hyn ar ôl i’r clwb ddiswyddo’r rheolwr James Rowberry a’i is-reolwr Carl Serrant, gan ddweud eu bod nhw’n “gyndyn” o wneud y penderfyniad hwnnw.

Mae’r clwb wedi diolch i James Rowberry “am ei waith, ei angerdd a’i ymroddiad” ers iddo gael ei benodi fis Hydref y llynedd, a hefyd i Carl Serrant, a gafodd ei benodi ym mis Chwefror, gan ddymuno’n dda i’r ddau ohonyn nhw.

Dywed Casnewydd y byddan nhw nawr yn troi eu sylw at benodi rheolwr newydd, ac y bydd Darren Kelly yn cael ei gynorthwyo gan y staff hyfforddi yn y cyfamser.

Maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach am y tro.

Mae’r clwb yn ddeunawfed yn Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed ar hyn o bryd, gydag 11 o bwyntiau yn eu 13 gêm hyd yn hyn.