Roedd torcalon i dîm pêl-droed merched Cymru neithiwr (nos Fawrth, Hydref 11), wrth i’w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd haf nesaf ddod i ben gyda cholled o 2-1 yn erbyn y Swistir yn eu gêm ail gyfle.
Daeth y gôl dyngedfennol ym munud ola’r amser ychwanegol yn y Stadion Letzigrund yn Zurich wrth i’r Swistir sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Aeth tîm Gemma Grainger ar y blaen ar ôl 19 munud, wrth i Rhiannon Roberts sgorio o gic gornel ar ôl i Kayleigh Green benio’r bêl i lawr tuag ati.
Ond fe wnaeth y Swistir unioni’r sgôr cyn yr egwyl wrth i amddiffyn Cymru chwalu, ac fe wnaeth Ramona Bachmann fanteisio ar ei chyfle o’r tu fewn i’r cwrt cosbi.
Aeth y Swistir o nerth i nerth wedyn, ac fe ddechreuodd Cymru flino gan ildio cic o’r smotyn ar ôl i Rachel Rowe lawio’r bêl, yn ôl VAR, ac fe wnaeth Ana-Marie Crnogorčević daro’r postyn cyn rhwydo ar yr ail gynnig – ond roedd hi wedi cyffwrdd y bêl ddwywaith felly doedd dim gôl am fod.
Gyda deg munud yn weddill, daeth Cymru’n agos at gipio’r fuddugoliaeth pan gyfunodd Ceri Holland a Jess Fishlock i osod y bêl yn dda i Kayleigh Green, a honno’n taro’r bêl dros y trawst.
Blinodd Cymru unwaith eto, a rhwydodd Bachmann o ongl dynn, ond roedd Riola Xhemaili yn camsefyll felly doedd dim gôl am fod eto ar ôl troi at VAR.
Bu’n rhaid i Rowe glirio’r bêl oddi ar y llinell o gic gornel cyn i Rachel Rinast gael ei rhyddhau i lawr yr ystlys ac wrth groesi’r bêl, wnaeth hi ddarganfod Fabienne Humm, a honno’n rhwydo.
‘Eithriadol o anodd i’w dderbyn’
“Mae’n eithriadol o anodd i’w dderbyn,” meddai Gemma Grainger wrth y BBC ar ôl y gêm.
“Rydyn ni’n gwybod fod ffin denau ar y lefel yma, ac mae hynny wedi cael ei ddangos heno,” meddai.
“Dw i’n eithriadol o falch o’r grŵp hwn.
“Dw i’n falch ein bod ni wedi cystadlu yn y gêm hon ac rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny.
“Rydyn ni wedi’n siomi ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ennill gemau ar y lefel yma, ond mae’n ffin denau.
“Rhaid i ni ddiolch i’n cefnogwyr am eu cefnogaeth yn ystod yr ymgyrch.”