Mae Tom Bevan, y batiwr ifanc o Gaerdydd, wedi llofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Chlwb Criced Morgannwg.

Cododd Bevan, sy’n 23 oed ac yn fab i’r hyfforddwr rygbi Huw Bevan, drwy rengoedd Morgannwg cyn ymddangos yn y tîm cyntaf am y tro cyntaf yn 2022, gan greu argraff mewn gemau undydd.

Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd proffesiynol ar ôl creu argraff yn yr ail dîm ers tro, ac mae e bellach wedi chwarae mewn chwe gêm i’r tîm cyntaf, gan daro’i ganred cyntaf yn erbyn Hampshire ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd.

“Dyna beth yw breuddwydion, dw i wedi gweithio mor galed amdano fe er pan o’n i’n fachgen bach,” meddai.

“Dywedais i erioed fy mod i eisiau bod yn gricedwr, ac mae ei gyflawni fe’n gwireddu breuddwyd, felly dw i mor falch.

“Dw i’n gefnogwr mawr o allu bwrw peli’n gyson, felly mae cael cefnogaeth y staff cynorthwyol yn rhoi’r hunanhyder i fi fynd allan a dangos iddyn nhw pa mor dda ydw i, a gobeithio y galla i gefnogi hynny gyda pherfformiadau.”

Cytundebau eraill

Y chwaraewyr eraill sydd wedi cael cytundeb newydd yw’r Cymry Callum Taylor a Jamie McIlroy, yr Iseldirwr Timm van der Gugten, Billy Root, ac Andy Gorvin.

Mae van der Gugten, Root a McIlroy wedi llofnodi cytundebau dwy flynedd, tra bod Taylor a Gorvin wedi cael blwyddyn arall.

Ymunodd van der Gugten, sy’n 31 oed, â Morgannwg yn 2016 ac mae e wedi chwarae mewn 134 o gemau i’r sir ar draws pob fformat, gan gipio 286 o wicedi, gan gynnwys 199 o wicedi dosbarth cyntaf.

Enillodd e wobr Chwaraewr y Flwyddyn yn ei dymor cyntaf ac eto yn 2018, gan ennill ei gap sirol y flwyddyn honno hefyd.

Symudodd Root o Swydd Nottingham ar ddiwedd tymor 2018, ac mae e wedi ennill ei le yn y tîm ym mhob cystadleuaeth, gan chwarae 80 o weithiau a sgorio 2,849 o rediadau ar draws pob fformat.

Ymunodd McIlroy, bowliwr cyflym llaw chwith 28 oed o Lanfair-ym-Muallt, â Morgannwg yn 2019 gan chwarae am y tro cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf yn 2021 a gemau undydd eleni.

Chwaraeodd Taylor am y tro cyntaf mewn gêm ugain pelawd yn 2019, gan daro canred oddi ar 88 pelen yn ei gêm 50 pelawd gyntaf y flwyddyn ganlynol.

Ymunodd Gorvin â’r sir yn 2021, gan ennill ei le yn y tîm gododd dlws Cwpan Royal London y tymor hwnnw, ac fe chwaraeodd ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf yn 2022.

Ymateb

“Fe wnaeth Tom greu argraff ar bawb yn y clwb y tymor hwn, ac fe berfformiodd e’n wych yn y tîm cyntaf a’r ail dîm lle mae e wedi dangos ei fod e’n gallu camu i fyny lefel,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Rydyn ni wedi cyffroi’n fawr i weld sut mae e’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae Timm yn fowliwr profiadol iawn sy’n chwaraewr allweddol i ni ym mhob fformat. Ynghyd â Michael Hogan, mae e wedi arwain yr ymosod ers sawl blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen i’w weld e’n parhau â’r rol yna.

“Dangosodd Billy unwaith eto y tymor hwn y fath chwaraewr talentog yw e, gyda batiad i ennill y gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon. Mae e hefyd yn aelod poblogaidd iawn o’r ystafell newid, ac yn ddylanwad positif ar y garfan.

“Chwaraeodd Callum yn dda iawn yn yr ail dîm ac mae ei fowlio sbin wedi datblygu’n fawr, ac er nad oedd e wedi cael y cyfleoedd yn y tîm cyntaf y byddai wedi’u hoffi eleni, mae e’n dal i fod yn aelod pwysig o’r garfan.

“Fe wnaeth Jamie ac Andy yn dda iawn pan gawson nhw eu galw eleni, ac maen nhw’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i aelodau eraill y tîm bowlio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut fyddan nhw’n datblygu.”