Mae tîm rygbi merched Cymru wedi cael crasfa o 56-12 gan Seland Newydd yng Nghwpan y Byd yn Waitakere wrth i’r Crysau Duon sgorio deg cais ar eu tomen eu hunain.

Mae Portia Woodman bellach wedi sgorio pum cais yn y twrnament, wrth ychwanegu dau arall yn y gêm hon, a sgoriodd Sylvia Brunt ddau gais hefyd.

Sgoriodd Ffion Lewis a Sioned Harries gais yr un wrth i Gymru lithro i’r trydydd safle ar wahaniaeth pwyntiau ag Awstralia, ond mae’n bosib y gallai tri thîm o’r grŵp gymhwyso.

Roedd amddiffyn Cymru’n gryf yn y munudau agoriadol ond fe bwysodd Seland Newydd ac fe ddaeth y cais cyntaf i Chelsea Bremner yn dilyn cic gosb Ruahei Demant i’r ystlys.

Daeth ail gais o fewn dim o dro wrth i Demant dorri’n glir a chanfod Woodman, a honno’n torri’n glir gyda Bremner, gan greu cais i Brunt.

Daeth ail gais i Woodman yn fuan wedyn wrth iddi ganfod gofod ac osgoi tacl gan Jaz Joyce ac yna Kayleigh Powell, gyda Demant yn ychwanegu’r trosiad ar ôl tair ymgais aflwyddiannus.

Cafodd Cymru rywfaint o feddiant ond fe wnaethon nhw ei ildio ar ôl i Sioned Harries ddod yn agos at groesi’r llinell, a daeth cyfle i Ffion Lewis ar drothwy’r egwyl, a honno’n croesi gydag Elinor Snowsill yn ychwanegu’r trosiad i’w gwneud hi’n 22-7.

Dechreuodd Seland Newydd yr ail hanner yn gryf gyda dau gais cynnar, gyda Theresa Fitzpatrick yn rhedeg trwy Hannah Jones, a Maia Roos yn dangos ei chryfder i groesi am yr ail.

Gwrthymosod wnaeth Seland Newydd ar gyfer cais gorau’r gêm, wrth i’r bêl gael ei lledu cyn i Brunt groesi am ei hail gais.

Daeth seithfed cais o sgrym, gyda’r eilydd Krystal Murray yn canfod bwlch, a Demant yn cicio trydydd trosiad.

Daeth cyfle wedyn i Gymru wrth i’w lein gael ei gyrru yn ei blaen, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd y bêl wedi cael ei thirio.

Roedd Seland Newydd i lawr i 14 o chwaraewyr ddeng munud cyn y chwiban olaf, wrth i’r blaenasgellwr Sarah Hirini weld cerdyn melyn ond fe wnaeth Cymru fethiu â manteisio wrth i Demant groesi am gais.

Roedd y Crysau Duon i lawr i 13 o chwaraewyr yn y munudau olaf, wrth i’r wythwr Charmaine McMenamin weld cerdyn melyn am fwrw’r bêl ymlaen yn fwriadol, a daeth cais i Sioned Harries oddi ar y lein.

Ond Tui gafodd y gair olaf i gau pen y mwdwl ar berfformiad campus Seland Newydd.