Mae Colin Ingram, y batiwr llaw chwith 37 oed o Dde Affrica, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am ddwy flynedd arall.

Bydd yn un o dri chwaraewr tramor yn y garfan, ynghyd â’r Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser, gyda dim ond dau ohonyn nhw’n cael chwarae ar yr un pryd.

Sgoriodd Ingram 596 o rediadadau mewn pum gêm dosbarth cyntaf eleni, gan daro tri chanred.

Roedd yn brif sgoriwr y sir yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, gyda 342 o rediadau, gan gynnwys 155, sgôr gorau ei yrfa, yn erbyn Caint.

Ymunodd e â Morgannwg yn 2015, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr undydd gorau yn hanes y sir.

Fe hefyd yw prif sgoriwr y sir mewn gemau ugain pelawd, gyda 2,357 o rediadau, ac mae ganddo fe gyfartaledd o fwy na 67 mewn gemau undydd Rhestr A, gydag wyth canred mewn 38 o gemau.

Ochr yn ochr â chwarae, bydd e’n parhau i fentora rhai o fatwyr iau y sir, ac yn hyfforddi ar Lwybrau Morgannwg.

Wrth ei fodd

Colin Ingram
Colin Ingram

“Dw i wrth fy modd o fod wedi llofnodi’r cytundeb newydd hwn gyda Morgannwg,” meddai Colin Ingram.

“Wnes i wir fwynhau fy nghriced y tymor hwn, a dychwelyd i’r llwyfan pêl goch lle ges i fy mlwyddyn orau i’r clwb, fwy na thebyg.

“Daethon ni’n agos iawn at ennill dyrchafiad, a’r flwyddyn nesaf dw i eisiau ein helpu ni i wiredu’r nod yma a gobeithio ennill y Vitality Blast, sy’n parhau’n un o fy mhrif uchelgeisiau mewn criced.

“Cymru yw fy nghartref, ac alla i ddim aros i chwarae i’r clwb am ddwy flynedd arall a pharhau i weithio â’r genhedlaeth nesaf o gricedwyr o Gymru.”

‘EIthriadol’

“Roedd Colin wedi perfformio’n eithriadol y tymor hwn, ac yn edrych fel pe bai e’n chwarae’n well nag erioed,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Rydyn ni’n gwybod ei fod e’n chwaraewr pêl wen gwych, ond roedd ei weld e’n perfformio felly ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar ôl ychydig flynyddoedd i ffwrdd o griced pêl goch yn wych.

“Mae gyda ni dri chwaraewr tramor o safon fyd-eang i ddewis ohonyn nhw, gan roi digon o opsiynau i ni wrth fynd i mewn i’r flwyddyn nesaf.

“Mae e’n dod â chymaint o brofiad i’r garfan y gall ein chwaraewyr fwydo oddi arno fe, ac mae’n wych fod ein chwaraewyr ifainc yn gallu manteisio ar ei wybodaeth wrth iddo fe barhau i hyfforddi’n llwybrau.”