Mae Dan Biggar allan o gemau rygbi Cymru yng nghyfres yr hydref oherwydd anaf.

Daeth cadarnhad o’i absenoldeb wrth i’r prif hyfforddwr Wayne Pivac gyhoeddi carfan o 35 o chwaraewyr ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd, yr Ariannin, Georgia ac Awstralia.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd allan mae Taine Basham, Leon Brown, Seb Davies, Wyn Jones, Josh Navidi, Johnny Williams a Liam Williams.

Mae’n golygu nad yw Cymru eto wedi cyhoeddi pwy fydd eu capten ar gyfer y gemau.

Yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers dros flwyddyn mae Leigh Halfpenny, Ken Owens a Justin Tipuric, ac mae Jac Morgan a Rhys Priestland hefyd yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.

Mae Rhodri Jones a Nicky Smith wedi’u cynnwys am y tro cyntaf eleni, ochr yn ochr â Christ Tshiunza,

Mae sawl wyneb newydd yn y garfan – Joe Hawkins, Rio Dyer, Dane Blacker a Sam Costelow, gyda Josh McLeod hefyd yn dychwelyd ar ôl cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer gemau’r hydref yn 2020 a’r Chwe Gwlad yn 2021.

Yn ôl Wayne Pivac, bydd cael Ken Owens, Justin Tipuric a Leigh Halfpenny yn y garfan unwaith eto’n gymorth i’r chwaraewyr iau a llai profiadol ac wrth drafod y chwaraewyr iau hynny, mae’n dweud bod nifer o chwaraewyr yn y garfan maen nhw wedi bod yn eu monitro ers tro ond mae’n rhybuddio ei bod hi’n bosib na fyddan nhw’n chwarae.

Y gapteniaeth

Y dirgelwch mwyaf bellach yw pwy fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Dan Biggar.

Mae Wayne Pivac yn dweud bod “nifer o opsiynau” gan y dewiswyr, a bod “cyfle am fwy nag un capten yn y gyfres”.

Bydd Cymru’n herio Seland Newydd ar Dachwedd 5 (y gic gyntaf am 3.15yp), cyn wynebu’r Ariannin y dydd Sadwrn canlynol (Tachwedd 12).

Byddan nhw wedyn yn croesawu Georgia ar Dachwedd 19, ac yn herio Awstralia am Dlws James Bevan ar Dachwedd 26.


Y garfan

Blaenwyr

Rhodri Jones, Nicky Smith, Gareth Thomas, Ryan Elias, Dewi Lake, Ken Owens, Tomas Francis, Dillon Lewis, Sam Wainwright, Adam Beard, Ben Carter, Alun Wyn Jones, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Dan Lydiate, Josh MacLeod, Jac Morgan, Tommy Reffell, Justin Tipuric, Christ Tshiunza

Olwyr

Dane Blacker, Kieran Hardy, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Sam Costelow, Rhys Priestland, Joe Hawkins, George North, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Alex Cuthbert, Rio Dyer, Leigh Halfpenny, Louis Rees-Zammit