Bydd ymgyrch tîm rygbi’r gynghrair Cymru yng Nghwpan y Byd yn dechrau nos fory (nos Fercher, Hydref 19), gyda gêm yn erbyn Ynysoedd Cook yn Leigh.

Byddai cymhwyso o’r grŵp yn dipyn o gamp i Gymru, wrth iddyn nhw orfod wynebu Papua Guinea Newydd a Tonga hefyd.

Ond mae John Kear, prif hyfforddwr Cymru, wedi dweud wrth Sky Sports mai’r cam cyntaf yw sicrhau bod y chwaraewyr yn gwneud eu teuluoedd, eu treftadaeth a’u man geni’n falch ohonyn nhw.

“Os gallwn ni wneud hynny, gallwn ni herio,” meddai.

“Byddwn ni’n sicr yn chwarae’n dda iawn, iawn yn erbyn Ynysoedd Cook – does gyda fi ddim amheuaeth am hynny.

“Rydyn ni wedi anghofio am y ddwy arall yn ein grŵp tan ein bod ni’n dod i’w herio nhw.

“Rydyn ni’n gwybod fod ganddyn nhw chwaraewyr da hefyd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr her honno.

“Os ydyn ni’n ennill un gêm, yna mae’n gam ymlaen, ond os ydych chi’n ennill un yna dydych chi byth yn gwybod beth mae’n ei wneud ar gyfer hyder a hunan-gred y chwaraewyr.

“Byddwn ni’n mynd i’r afael â hynny wedyn, ond ein canolbwynt yw ennill un ac yna fe wnawn ni edrych ar weddill y gystadleuaeth.”

Y timau

Bydd Elliot Kear yn gapten ar Gymru yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd.

Kear fydd yr ail gyn-ddisgybl o Whitchurch High School i fod yn gapten ar Gymru yng Nghwpan y Byd, ar ôl Sam Warburton, cyn-gapten tîm rygbi’r undeb Cymru.

Mae disgwyl i Caleb Aekins chwarae yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, ac mae’r efeilliaid Connor a Curtis Davies hefyd wedi’u cynnwys, ynghyd â Rhys Williams, sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau ac wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau dros y wlad.

Mae Ollie Olds hefyd wedi’i gynnwys, ddwy flynedd ar ôl ymddeol oherwydd anafiadau, cyn gwneud tro pedol yn gynharach eleni.

Bydd Cymru’n herio Tonga ar Hydref 24 a Papua Guinea Newydd ar Hydref 31.