Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi rhybuddio grŵp o gefnogwyr ifanc y byddan yn cael eu gwahardd os na fyddan nhw’n “ymddwyn yn briodol” yn ystod gemau cartref ar yr Oval.
Daw hyn wedi i’r Bwrdd Rheoli dderbyn nifer o gwynion gan oedolion “sy’n dymuno gwylio’r gemau heb sgrechian, rhedeg ac ymddygiad afreolus cyson”.
Mae’r clwb yn bumed yn y Cymru Premier ar ôl naw gêm.
Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywed y bwrdd: “Mae wedi dod i’n sylw nad yw nifer fawr o blant sy’n mynychu ein gemau yn yr Oval yn ymddwyn yn y modd priodol.
“Oherwydd hyn, rydym wedi derbyn llawer o gwynion gan oedolion sy’n dymuno gwylio’r gemau heb sgrechian, rhedeg ac ymddygiad afreolus cyson rhai o’r bobol ifanc yn y stadiwm.
“O ganlyniad i’r cwynion hyn, ac ymddygiad y grŵp hwn o bobol ifanc, bydd yn rhaid i ni gyflogi, ar gost sylweddol i’r clwb, swyddogion diogelwch ychwanegol yn y gêm ddydd Gwener yma.
“Rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu pob cefnogwr o bob oed i’r Oval ond rhaid ei gwneud yn glir y bydd unrhyw un nad yw’n ymddwyn yn briodol yn y gêm ddydd Gwener, neu unrhyw gêm yn y dyfodol, yn cael eu hanfon allan o’r stadiwm, ac o bosibl yn cael eu gwahardd.
“Apeliwn hefyd ar rieni i sicrhau eu bod yn ei gwneud hi’n glir i’w plant ein bod ni’n disgwyl i bawb ymddwyn yn gyfrifol a chyda pharch dyledus tuag at wylwyr eraill yn yr Oval.
“Os bydd y broblem yn parhau yn dilyn gêm dydd Gwener, ni fydd dewis arall ond ystyried cyflwyno polisi newydd yn yr Oval, a fydd ddim yn caniatáu i blant dan oedran penodol fynychu gemau heb fod yng nghwmni oedolyn.”