Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn annog cefnogwyr sy’n teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd i ddilyn cyngor teithio’r Swyddfa Dramor.

Bydd tair gêm grŵp Cymru – yn erbyn yr Unol Daleithiau, Iran a Lloegr – yn cael eu cynnal yn Stadiwm Ahmad Bin Ali yn Al-Rayyan.

Gyda mis cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 21, mae’r Swyddfa Dramor yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, cynrychiolwyr cefnogwyr a’r heddlu i sicrhau bod gan bobol sy’n teithio i’r wlad y cyngor mwyaf priodol.

“Mae pawb yng Nghymru’n edrych ymlaen at weld Cymru yng Nghwpan y Byd, ein hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth ers 1958,” meddai Rob Page.

“I’r cefnogwyr hynny sy’n teithio i Qatar, rydyn ni’n gwybod faint maen nhw wedi cyffroi o gael gwylio Cymru’n chwarae yn y twrnament, ond mae’n eithriadol o bwysig eu bod nhw’n cadw i fyny â’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf.

“I gael y profiad gorau posib, rydym yn cynghori’n cefnogwyr i fynd i gov.uk/qatar2022 i gael gwybodaeth ddiweddara’r Swyddfa Dramor ynghylch y twrnament, gan gynnwys gofynion profi Covid a’r pethau allweddol i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud.

“Wela’i chi yn Qatar!”

Cyngor teithio i gefnogwyr Cymru:

  • Paratowch cyn i chi fynd – mae gan y Swyddfa Dramor restr wirio ar gyfer y camau ymarferol i’w cymryd cyn teithio i’r twrnament – o ddilysrwydd eich pasbort i bresgripsiynau iechyd
  • Gwiriwch y cyngor teithio a chofrestrwch ar gyfer e-byst gwybodaeth – mae modd dod o hyd i wybodaeth sy’n benodol ar gyfer Cwpan y Byd drwy fynd i govv.uk/qatar2022. Mae’r cyngor teithio’n cael ei ddiweddaru’n gyson
  • Dilynwch y gofynion mynediad ar gyfer Qatar – mae angen cerdyn Hayya arnoch chi, yn ogystal â thystiolaeth eich bod chi wedi cael prawf Covid negyddol ar ffurf prawf PCR neu brawf antigen cyflym. Rhaid trefnu llety ymlaen llaw cyn teithio i’r wlad
  • Mynnwch yswiriant teithio – heb yswiriant, mae’r perygl o gael biliau meddygol uchel hyd at filoedd o bunnoedd. Dylech chi wirio bod yswiriant ar gael i chi ar gyfer pob lleoliad, anghenion meddygol, costau Covid-19 a gweithgareddau
  • Sicrhewch eich bod chi’n gwybod y pethau i’w gwneud neu beidio – mae cyfreithiau Qatar yn wahanol iawn i rai Cymru. Gallech chi gael eich cosbi’n llym am droseddau nad ydyn nhw’n droseddau yn y wlad hon. Er enghraifft, bydd argaeledd alcohol yn wahanol iawn i’r arfer mewn cystadlaethau rhyngwladol
  • Cadwch draw o gyffuriau – dydy Qatar ddim yn goddef unrhyw ddefnydd o gyffuriau, a gallech chi gael eich cosbi’n llym am ddefnyddio unrhyw gyffur, gan gynnwys cyfnod hir o garchar

Bydd cynrychiolwyr o swyddfa gonswlaidd y Deyrnas Unedig yn Qatar ar gael yn ystod y twrnament, a dylid ffonio’r Swyddfa Dramor am gyngor ar +44 (0)20 7008 5000. Mae modd gwneud galwadau brys drwy ddeialu 999.

Dylai pobol sy’n bwriadu teithio o fewn y wlad wirio’r cyngor teithio ar gyfer pob ardal, gan y bydd rheolau’n amrywio o un lle i’r llall.

Cymru a Qatar yn trafod

Daeth Jon Wilks, Llysgennad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Qatar, i Gymru ym mis Gorffennaf i drafod y trefniadau gyda Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a swyddogion eraill.

“Gyda dim ond mis i fynd, dw i a fy nhîm yn y Llysgenhadaeth wedi cyffroi’n fawr ynghylch croesawu’r Wal Goch enwog i Qatar.

“Mae Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd yn achlysur gwirioneddol arbennig, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed â phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r tîm a’r cefnogwyr yn eu paratoadau.

“Rydyn ni eisiau i bawb o Brydain sy’n teithio fwynhau eu profiad yng Nghwpan y Byd, ac maen nhw’n fwy tebygol o fwynhau os ydyn nhw’n paratoi cyn iddyn nhw fynd.

“Bydd dilyn ein chwe chanllaw a chofrestru ar gyfer e-byst cyngor teithio i Qatar yn helpu’n cefnogwyr i gael ymweliad diogel heb drafferth.”

Mae Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Cymru, hefyd yn annog pobol i ddilyn y cyngor priodol yn Qatar.

“Dyma’r tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd i gefnogwyr pêl-droed Cymru gael y cyfle i deithio a chefnogi eu gwlad yng Nghwpan y Byd,” meddai.

“Rwy’n annog holl gefnogwyr Cymru i ddilyn y cyngor ac i baratoi ar gyfer eu taith, fel y gallan nhw fwynhau Cwpan y Byd a’r eiliad hanesyddol hon i bêl-droed yng Nghymru.”

Mae Llysgenhadaeth Cefnogwyr Cymru’n annog cefnogwyr Cymru i gadw’r cyngor wrth law.

“Dyma’n Cwpan Byd cyntaf ers cenhedlaeth ac rydyn ni’n gwybod y bydd cefnogwyr Cymru’n benderfynol o fwynhau’r profiad,” meddai Paul Corkrey.

“Mae’n daith ansicr, ond mae gwybodaeth ar gael ac rydym yn annog y Wal Goch i gadw cofnod o wefan cyngor teithio’r Swyddfa Dramor.”