Graham Coughlan yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd.
Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner i olynu James Rowberry.
𝗕𝗥𝗘𝗔𝗞𝗜𝗡𝗚: Newport County AFC are delighted to announce the appointment of 𝗚𝗥𝗔𝗛𝗔𝗠 𝗖𝗢𝗨𝗚𝗛𝗟𝗔𝗡 as our first-team manager on a contract until 𝟮𝟬𝟮𝟱!#NCAFC🧡🖤https://t.co/NsgVPHHhdJ pic.twitter.com/BStmt3Mi8l
— Newport County AFC (@NewportCounty) October 20, 2022
Dechreuodd Coughlan ei yrfa’n rheoli Bristol Rovers yn yr Adran Gyntaf yn 2018, yn wreiddiol fel rheolwr dros dro wrth i’w clwb frwydro i oroesi yn y gynghrair honno.
Enillodd y tîm ddeg o bwyntiau allan o 15 yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, wrth iddyn nhw godi o safleoedd y gwymp, ac fe gafodd ei benodi’n barhaol gan orffen yn bymthegfed yn y tabl ar ddiwedd y tymor.
Dechreuodd y clwb yn dda y tymor canlynol, gan godi i’r pedwerydd safle cyn iddo symud i Mansfield fis Rhagfyr 2019, a helpu’r clwb hwnnw i oroesi hefyd ar ddiwedd tymor 2019-2020.
Treuliodd e gyfnod y tymor diwethaf yn hyfforddi tîm dan 23 Sheffield United.