Mae cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth i’r Senedd yn foment garreg filltir i ffermio yng Nghymru, yn ôl NFU Cymru.

Y bil, a gafodd ei gyhoeddi ar ffurf drafft heddiw (dydd Llun, Medi 26), yw’r darn o ddeddfwriaeth sylfaenol a fydd yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol ac a fydd yn diffinio ffermio yng Nghymru am genhedlaeth neu fwy.

“Am y tro cyntaf yn ein hanes bydd y mesur hwn yn rhoi’r cyfle i Gymru weithredu ei pholisi bwyd a ffermio ei hun, a wnaed yng Nghymru ar gyfer pobol Cymru,” meddai Aled Jones.

“O ran ei effaith bosibl ar ffermwyr Cymru, y bil hwn yw’r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth yr ydym wedi’i weld ers Deddf Amaethyddiaeth 1947 San Steffan.”

Sector bwyd a ffermio am barhau i dyfu a ffynnu

“Mae’n dod ar adeg hollbwysig i gymdeithas gyda phwysigrwydd a breuder fforddiadwyedd a sicrwydd bwyd, gartref a thramor, yn cael eu dwyn i sylw amlwg gan effeithiau’r gwrthdaro dinistriol yn Wcráin,” meddai Aled Jones wedyn.

“Mae’n amlwg y gallai’r tarfu ar allbwn bwyd, cadwyni cyflenwi, argaeledd a fforddiadwyedd bwyd bara am flynyddoedd lawer.

“Dyna pam mae’n rhaid i’r bil, fel amcan allweddol, fod yn sail i gynhyrchu cyflenwad sefydlog o fwyd diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel yng Nghymru.”

Mae NFU Cymru, trwy eu dogfen bolisi Llunio Dyfodol Ffermio Cymru a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach eleni, wedi nodi’r fframwaith polisi y mae’n rhaid i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) geisio ei sefydlu, a ddylai:

  • Sicrhau bod bwyd fforddiadwy o ansawdd uchel yn cael ei gynhyrchu i bawb mewn cymdeithas trwy wella ein gallu i gynhyrchu bwyd i’r genedl
  • Gwella cynhyrchiant ar y fferm gan hyrwyddo twf cynaliadwy sector bwyd a diod Cymru – cyflogwr mwyaf Cymru
  • Tanategu cadernid ariannol ein ffermydd teuluol a, thrwy wneud hynny, cynnal ein cymunedau gwledig, iaith, diwylliant a threftadaeth
  • Cynnal a gwella natur a’n hamgylchedd tra hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein gweledigaeth i gyrraedd amaethyddiaeth sero net erbyn 2040.

“Does dim dwywaith yn fy meddwl, gyda fframwaith polisi galluogi, y gall y sector bwyd a ffermio yng Nghymru, sy’n werth £8.5 biliwn, barhau i dyfu a ffynnu diolch i rôl ffermwyr Cymru wrth gynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd mewn amgylchedd a thirwedd sy’n gweld ein natur yn ffynnu,” meddai Aled Jones wedyn.

“Drwy gyflwyno’r bil hwn rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru.

“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn cymryd ein hamser i astudio’r bil yn fanwl i weld sut mae’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau polisi.

“Fel rhan o’r broses honno, edrychwn ymlaen at weithio gydag Aelodau Seneddol a phwyllgorau perthnasol y Senedd, gan eu cynorthwyo yn eu gwaith craffu ar y Bil, a helpu i sicrhau bod y Bil yn wir yn sefydlu fframwaith ar gyfer sector amaethyddol ffyniannus.”

‘Pwysig cyflawni er lles sector amaeth a chefn gwlad Cymru’

“Dyma’r cyfle cyntaf i gael bil amaeth ‘Ganed yng Nghymru, magwyd yng Nghymru’,” meddai Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.

“Cyfle i bolisi adlewyrchu’n well y sector amaeth unigryw yma yng Nghymru, felly mae’n bwysig ei fod yn cyflawni er lles y sector a chefn gwlad ehangach.

“Mae’r amcanion a geir o fewn y Bil Amaeth yn gam i’r cyfeiriad cywir.

“Dw i eisoes wedi dweud y dylai’r Bil hwn warchod safonau uchel, hybu ein cynnyrch a gwasanaethau mewn marchnadoedd cartref a thramor, a chynnig y gefnogaeth i’r diwydiant, gan wneud diogelwch a chynaliadwyedd bwyd yn gonglfaen unrhyw gyfundrefn amaethyddol newydd.

“Mae angen cyflawni hyn ochr yn ochr â gwelliannau amgylcheddol.

“Bydd Bil Amaeth cryf hefyd yn datblygu ein cymunedau gwledig, gan gryfhau ein diwylliant a’n hiaith.

“Wrth i ni graffu ar y ddeddfwriaeth a’i diwygio dros y misoedd sydd i ddod, fy mlaenoriaeth yw sicrhau’r cytundeb gorau posib i ffermwyr Cymru a’n cefn gwlad.”

Fis Gorffennaf eleni, lansiodd Sam Kurtz ei weledigaeth amgen ar gyfer y sector amaeth yng Nghymru ar ffurf bil ag iddo dri phrif ffrwd.

Gwarchod: parhau i sicrhau lles anifeiliaid a safonau cynhyrchu uchel sy’n gosod cynnyrch amaethyddol Cymru ymhlith y rhai gorau yn y byd, gan warchod ffermwyr a’u hiechyd meddwl ar yr un pryd â sicrhau camau diogelu’r diwydiant cartref yn erbyn dylanwadau byd-eang.

Hyrwyddo: gweithio ar draws y diwydiannau i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch Cymreig gartref a thramor, ac ychwanegu gwerth at gynnyrch, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o rôl amaeth wrth warchod yr amgylchedd.

Darparu: cefnogi’r diwydiant i gynyddu diogelwch a chynaliadwyedd bwyd er mwyn gwarchod rhag effeithiau costau uchel tanwydd, bwyd anifeiliaid a gwrtaith, ar yr un pryd â datblygu cyfleoedd i’r rhai sy’n mentro i’r diwydiant o’r newydd.

Bil Amgen

Bydd Bil Amaeth Amgen y Ceidwadwyr Cymreig yn:

  • canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, gan alluogi Cymru i gynhyrchu mwy o fwyd er mwyn lleihau ei dibyniaeth ar allforion
  • gynaliadwy ac yn deall y berthynas rhwng y tir a gweithwyr
  • syml i’w weinyddu a’i gyflwyno, gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n gweithio ar eu tir
  • annog buddsoddiad mewn ffermwyr a’r diwydiant amaeth, a chefnogi’r rhai sy’n mentro i’r diwydiant o’r newydd a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr
  • sicrhau bod ffermwyr yn gallu cystadlu â ffermwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd