Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi dechrau gyrru llythyrau o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog Liz Truss, yn ôl un cyn-weinidog Ceidwadol anhysbys oedd yn aelod o Gabinet Boris Johnson.

Dywedodd yr Aelod Seneddol wrth Sky News fod llythyrau wedi dechrau cyrraedd cadeirydd Pwyllgor 1922 yn sgil pryderon am gynlluniau economaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth yr Aelod Seneddol, sydd heb ei enwi, gyhuddo Liz Truss a’r Trysorlys o “chwarae economeg Lefel A gyda bywydau pobol”.

“Mae polisi cyllidol y llywodraeth yn groes i bolisi ariannol Banc Lloegr – felly maen nhw’n cwffio gyda’i gilydd,” meddai.

Mae Aubrey Allegretti, gohebydd gwleidyddol y Guardian, hefyd yn adrodd bod Aelod Seneddol Ceidwadol wedi dweud nad yw’r sôn am lythyrau o ddiffyg hyder yn anghywir.

“Fe ddaw amser pan fydd pobol yn dweud ‘Dw i’n gwybod bod hyn am wneud i ni edrych yn ddi-drefn, ond fedrwn ni ddim parhau fel hyn’,” meddai.

Daw hyn wedi i’r bunt blymio bron i 5%, gyda £1 gyfwerth â $1.0327, y lefel isaf ers i’r Deyrnas Unedig fynd yn ddegol yn 1971.

Mae llefarydd ar ran Liz Truss yn dweud nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud sylwadau am newid yn y farchnad a’u bod nhw am gadw at y cynlluniau ariannol gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener (Medi 23).

Ymysg y cynlluniau mae cyfres o doriadau trethi a chymorth i dalu biliau ynni, ac ymhlith y mesurau mwyaf dadleuol gafodd eu cyhoeddi mae dileu’r cap ar fonws bancwyr, a chael gwared ar y cynnydd arfaethedig yn y dreth gorfforaeth.

‘Chwalfa economaidd’

Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Ynys Môn, fod y Ceidwadwyr yn “creu chwalfa economaidd”.

“Maen nhw’n plymio’r bunt, yn cosbi’r tlotaf gyda’r argyfwng costau byw, tra’n benthyg mwy er mwyn creu toriadau trethi i’r cyfoethog,” meddai.

“Gallai Cymru bellhau o’r wrth yr hurtrwydd hwn.”

‘Arian yn ôl ym mhocedi pobol’

Wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl heddiw, dywedodd Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, y gall pobol dros y Deyrnas Unedig edrych ar Gymru a gweld y gwahaniaeth mae llywodraeth Lafur yn ei wneud.

“Dim benthyg biliynau yn hytrach na threthu’r £170bn o elw gan gynhyrchwyr olew a nwy fel y Torïaid, na chael gwared ar y cap ar fonws bancwyr – mae ein llywodraeth Llafur yng Nghymru’n defnyddio pob pŵer sydd gennym i roi arian yn ôl ym mhocedi’r rheiny sydd ei angen fwyaf,” meddai, gan restru:

  • Ymestyn prydau ysgol am ddim a chynnig brecwast am ddim.
  • Cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol.
  • Help gyda biliau treth cyngor.
  • Rhoi’r fargen orau yn y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr.
  • Ymestyn ein cynnig gofal plant i rieni sydd mewn addysg neu’n derbyn hyfforddiant.

“Mae Llafur yn adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”

“Angen ystyried o le ddaw ein hynni” wrth i’r bunt ddisgyn, yn ôl economegydd

Elin Wyn Owen

“Gallem yng Nghymru ddarparu trydan llawer, llawer rhatach a fyddai o gymorth yn y tymor hir,” meddai Dr John Ball
Kwasi Kwarteng

Kwasi Kwarteng yn cyhoeddi “cynllun cynhwysfawr” – cyfres o doriadau trethi a chymorth i dalu biliau ynni

Ymhlith y mesurau mwyaf dadleuol sydd dan y lach gan wrthbleidiau mae dileu’r cap ar fonws bancwyr a chael gwared ar y cynnydd yn y dreth gorfforaeth