Mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddewis gan Blaid Cymru i frwydro sedd Ynys Môn yn San Steffan.

Fe gyhoeddodd y newyddion neithiwr (nos Lun, Medi 26) ar ei dudalen Facebook, gan ddweud iddo gael ei ddewis yn unfrydol.

Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad ym Môn yn 2013, ac mae’n Aelod o’r Senedd dros yr ynys ers newid enw’r sefydliad yn 2020.

Cyn cael ei ethol yn wleidydd ac ar ôl graddio yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd, roedd yn newyddiadurwr a darlledwr blaenllaw ar ôl ymuno â’r BBC yn 1994.

Treuliodd e dair blynedd yn gohebu yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru fel Uwch Ohebydd Gwleidyddol ac yn ohebydd i Rwydwaith y BBC, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni radio a theledu yn Gymraeg a Saesneg.

Cafodd ei fagu ym Môn, ac mae’n byw yno â’i wraig Llinos a’u tri o blant.

Mae e bellach yn llefarydd iechyd a gofal cymdeithasol y blaid ac yn aelod o Bwyllgor Iechyd y Senedd, a hefyd yn ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, yn ogystal â bod yn gadeirydd ar Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghymru.

‘Anrhydedd enfawr’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei bod yn “anrhydedd enfawr” cael cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd.

“Ond wrth i’n Senedd ein hunain barhau i dyfu a chryfhau, mae’n allweddol i sicrhau bod llais Môn a Chymru yn cael ei glywed yn San Steffan,” meddai.

“Mae’r gyllideb greulon gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn chwalu’r economi a gwasgu’r lleiaf breintiedig, tra’n torri trethi i’r mwyaf cyfoethog, yn fy ngwneud yn fwy penderfynol i sefyll dros ein cymuned ac i ddangos bod Cymru yn haeddu gwell na hyn.

“Dwi eisiau bod yn gynrychiolydd dros bawb yn Ynys Môn.

“Mi allwn ni wneud hyn efo’n gilydd.”