Mae economegydd yn dweud bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried sut y gall Cymru gynnig trydan rhatach na gwledydd tramor, wrth i’r bunt gostwng i’w lefel isaf erioed.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cyfres o doriadau treth a mesurau gwariant yng nghyllideb y Canghllor Kwasi Kwarteng ddydd Gwener (Medi 23).
Fe gyhoeddodd nifer o doriadau treth gwerth rhyw £45bn.
Plymiodd gwerth y bunt gan bron i 5% ar un adeg i $1.0327, yr isaf ers i’r Deyrnas Unedig fynd yn ddegol yn 1971, wrth i ymddiriedaeth yn rheolaeth economaidd ac asedau’r Deyrnas Unedig wanhau.
Trydan Cymru’n ateb i’r gofidiau?
Mae Dr John Ball, sy’n gyn-ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Abertawe, bellach yn credu ei bod hi’n argyfwng a bod angen ystyried o le ddaw ein hynni.
“Yn y tymor hir, bydd yn rhaid codi rhai cwestiynau difrifol am natur cynhyrchu a defnyddio ynni yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360.
“Yng Nghymru, rydyn ni’n dibynnu ar y trydan rydyn ni’n ei greu.
“Felly, mewn rhai ffyrdd, mae yna argyfwng i’r Deyrnas Unedig.
“Gallem yng Nghymru ddarparu trydan llawer, llawer rhatach a fyddai o gymorth yn y tymor hir.”
‘Cwbl anghyfrifol’
Yn ôl Dr John Ball, mae’r ymateb gan y farchnad i’w ddisgwyl.
“Roedd y gyllideb fach, yn fy marn i fel economegydd, yn gwbl anghyfrifol,” meddai.
“Nid yw hwn yn amser i dorri trethi a rhoi mwy o gyllid i’r economi a’r marchnadoedd.
“Yn ail, y pryder mawr i unrhyw un sy’n deall economeg yw y bydd Banc Lloegr yn camu i’r adwy yn awr a, thrwy ddefnyddio polisi hynod hen ffasiwn ac amheus, yn codi cyfraddau llog mewn ymgais i sefydlogi’r bunt ac i ymosod ar chwyddiant.
“Y broblem gyda chodi cyfraddau llog yw y bydd hyn, yn ei dro, yn gyrru buddsoddiad i lawr ac yn gyrru’r economi i lawr.
“Fy mhryder mwyaf yw ein bod yn mynd i ddychwelyd i’r ’80au pan ddaeth term newydd i economeg, sef stagflation.
“Bydd yr economi yn llonydd tra bod chwyddiant yn gynddeiriog, ac rwy’n bryderus iawn mai canlyniad polisi’r llywodraeth yw hyn.”