Gall pobol ifanc a staff addysg yng Nghymru gael gwersi Cymraeg am ddim fel rhan o gynllun newydd i gynyddu nifer siaradwyr yr iaith.

Fel rhan o’r fenter gan Lywodraeth Cymru, gall pobol rhwng 18 a 25 oed gofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae gwersi am ddim ar gael i bob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu hefyd, fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau’r elfen o ddysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd.

Bellach, gall staff y sector addysg gael mynediad at borth ar-lein newydd er mwyn dod o hyd i gwrs addas, gan gynnwys opsiynau rhithiol, gwersi wyneb yn wyneb a chyrsiau hunanastudio.

Ar hyn o bryd, mae pobol ifanc 16 i 18 oed mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach penodol yn cymryd rhan mewn prosiectau peilot dysgu digidol sy’n cael eu rhedeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a SaySomethingInWelsh.

Mae mentrau eraill ar gyfer pobol 16 i 18 oed yn cynnwys cwrs byr ar-lein gyda Gwobr Dug Caeredin, a chynllun peilot magu hyder mewn Cymraeg ym Mhowys.

Bydd tystiolaeth a data sy’n cael eu casglu gan brosiectau peilot yn llywio cynllun cenedlaethol ar gyfer pobol 16 i 18 oed o 2023.

Cam ‘allweddol’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Cymru, ei fod yn falch o gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu’r iaith a’i gwneud hi’n haws i fwy o bobol gael cyfle i’w dysgu a’i defnyddio o ddydd i ddydd.

“Mae cynyddu nifer yr addysgwyr sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol o ran cyflawni ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai Jeremy Miles.

“Mae hyn yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim.

“Mae darparu gwersi am ddim i bobl 18 – 25 mlwydd oed yn golygu y gallant barhau i ddatblygu a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’i defnyddio yn eu gwaith ac wrth gymdeithasu.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

“Byddwn yn annog pob aelod o staff addysgu a phobol ifanc sydd am ddysgu Cymraeg am y tro cyntaf neu sydd am wella eu Cymraeg i fanteisio ar y cyfle hwn.”

‘Dylai pawb gael y cyfle’

Mae’r fenter gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, a dywed Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ei fod yn gam arall ymlaen.

“Dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg a phrofi manteision diwylliannol a chymdeithasol gwneud hynny,” meddai.

“Mae cyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc a’r rheiny sydd yn y proffesiwn addysgu yn gam arall ymlaen tuag at ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddysgu a siarad Cymraeg ac i gyflawni’r targed o gael miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg.”