Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynnal ymgynghoriad ar bremiwm treth cyngor ail dai a thai gwag fory (dydd Mawrth, Medi 27).
O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i godi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gwag.
Bydd rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf er mwyn gwneud hynny.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, maen nhw’n disgwyl i’r ymgynghoriad gael ei gymeradwyo, ac yn disgwyl i gynghorau sir ar draws Cymru fynd ati’n syth i ymgynghori ar y premiwm tai.
“Galwad ein rali ni yn Llangefni dros wythnos yn ôl oedd i gynghorau ar draws Cymru ddefnyddio pob mesur o fewn eu gallu, yn llawn, i fynd i’r afael â phroblemau ail dai,” meddai Jeff Smith, Cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith.
“Bydd y rhai sy’n elwa o ail dai ar draul ein cymunedau yn gwrthwynebu unrhyw dreth bellach ond gobeithio y gallwn ni ymddiried yn ein cynghorau i roi sicrwydd i’n cymunedau.
“Fydd codi premiwm ar ail dai wrth ei hun ddim yn datrys problemau tai, ond mae’n amlwg yn gyfraniad pwysig – nid yn unig trwy leihau nifer yr ail dai ond trwy greu incwm ychwanegol all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol.
“Deddf Eiddo sydd ei hangen er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tai sy’n effeithio cymunedau ar draws Cymru.
“Byddwn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn yn ystod tymor y Senedd bresennol.”
‘Cosbi afresymol’
Fodd bynnag, mae perchennog ail dŷ ym Mhen Llŷn, sydd am aros yn ddienw, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n sefyllfa “annheg”.
Prynodd dŷ yn Llŷn a gafodd ei adeiladu ar gyfer defnydd gwyliau yn unig, a’i hysbysebu felly.
Ond mae’n teimlo ei fod yn cael ei gosbi nawr, ar ôl cael ei annog i fuddsoddi yn y tŷ, gan fod peryg y bydd rhaid iddo dalu premiwm uwch.
“Mae ein heiddo ar safle a gafodd ei hadeiladu ar gyfer defnydd gwyliau yn unig,” meddai.
“Mae defnyddio’r eiddo fel cartref parhaol wedi cael ei wahardd dan y caniatâd cynllunio gwreiddiol.
“Cafodd y safle gymeradwyaeth ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn creu mwy o swyddi ac annog ymwelwyr i ymweld â’r ardal. Ar y pryd, cafodd gefnogaeth gan y Cyngor a thrigolion lleol.
“Mae’r naratif fel pe bai wedi cael ei ddrysu erbyn hyn ac rydyn ni’n wynebu cyhuddiadau ein bod ni’n amddifadu pobol leol rhag bod yn berchen ar dai.
“Mae placardiau wedi cael eu gosod ar y safle yn dweud ‘Saeson, ewch adre’ a ‘Tai lleol i bobol leol’.
“Alla i ddim ond pwysleisio nad ydyn nhw’n dai parhaol. Fel perchnogion, fedrwn ni ddim byw yno, fedrwn ni ddim rhoi ein plant mewn ysgolion lleol, fedrwn ni ddim cofrestru â meddyg, a does neb yn casglu’r sbwriel hyd yn oed.
“Mae fel bod y teimladau yn erbyn ein presenoldeb wedi datblygu’n gwbl afresymol.”
‘Annog i fuddsoddi, cyn ein condemnio’
Ar hyn o bryd, dydy’r perchennog ddim yn gorfod talu premiwm treth cyngor 100% gan bod y tŷ yn cael ei rentu dros 70 niwrnod y flwyddyn, ond mae eraill ar y safle wedi gorfod talu’r cyfraddau uwch.
Dan reolau newydd Llywodraeth Cymru, bydd gofyn i dŷ gael ei rentu am 182 o ddiwrnodau’r flwyddyn er mwyn cael ei gyfrif fel busnes; fel arall bydd yn cael ei ystyried fel ail dŷ ac yn gorfod talu’r premiwm treth cyngor.
Bydd hon yn dasg anodd, medd y perchennog, sy’n dweud mai camsyniad ydy credu nad yw perchnogion ail gartrefi’n cyfrannu o gwbl at yr economi leol.
“Mae hyn ymhell o realiti,” meddai.
“Rydyn ni’n gwario arian mewn busnesau lleol ac atyniadau, ynghyd â chyflogi glanhawyr a chrefftwyr.”
Ynghanol yr holl sôn am y sefyllfa dai, mae hi fel pe bai tai fyddai’n gallu bod yn anheddau parhaol ac adeiladu gydag amodau cynllunio cyfyngedig wedi cael eu gosod yn yr un categori, meddai.
“O ystyried yr amgylchiadau, mae hi hefyd yn annheg ac yn afresymol gorfodi premiymau treth cyngor ar eiddo gafodd eu datblygu’n unswydd ar gyfer defnydd gwyliau.
“Dydy ein tŷ gwyliau, fel rhai datblygiadau eraill mewn gwahanol rannau o Gymru, ddim yn rhan o’r stoc dai. Ac yn wir, dydy’r tŷ erioed wedi bod yn rhan o’r stoc dai.
“Polisi cynllunio sydd ond yn ystyried y dyfodol agos sy’n annog adeiladu eiddo ar gyfer twristiaeth yn unig ac yna’n difrïo a chosbi’r prynwyr yn ariannol ychydig o flynyddoedd wedyn am eu defnyddio nhw’n unol â’u defnydd gwreiddiol.
“Fedra i ond dod i’r canlyniad bod hyn wedi codi fel goblygiad anfwriadol i’r newid mewn polisi, ac y bydd datrysiad rhesymol i’r sefyllfa.
“Dydy hi ddim i weld yn iawn ein bod ni’n cael ein hannog i fuddsoddi yng Nghymru, ac yna’n cael ein condemnio’n gyhoeddus a’n cosbi â phremiymau annheg.”
‘Gwahodd sylwadau’
Mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes i ymateb i’r ymgynghoriad, pe bai’n cael ei gymeradwyo.
“Yn ei gyfarfod ar 27 Medi, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhelliad i symud ymlaen i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn galluogi’r Cyngor i ystyried sut i ymateb i’r newid mewn deddfwriaeth sy’n caniatau codi Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor o hyd at 300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
“Os bydd y Cabinet yn pleidleisio i fwrw mlaen, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gan wahodd sylwadau gan y cyhoedd.
“Mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb sydd a diddordeb yn maes – gan gynnwys perchnogion eiddo gwyliau – i fanteisio ar y cyfle ac i gyflwyno eu safbwyntiau.”
‘Twristiaeth er lles Cymru’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai’r weledigaeth yw datblygu twristiaeth er lles Cymru, “sy’n golygu gweithio’n agos gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau er mwyn sicrhau twf cynaliadwy ar gyfer twristiaeth”.
“Bwriad y newid i’r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunan-arlwyo yw dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw’n cael eu gosod yn rheolaidd fel rhan o fusnesau llety gwyliau dilys, gan wneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.
“Buom yn ymgynghori ar y cynigion ac roedd y safbwyntiau a gawsom o blaid newid.
“Mae nifer o eithriadau o’r premiwm treth cyngor yn bodoli. Er enghraifft, ni ellir codi premiwm ar eiddo sy’n destun amodau cynllunio sy’n atal preswylio am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf yn unrhyw gyfnod o 12 mis.
“Rydym yn ystyried a ddylai eithriadau fod yn gymwys i amodau cynllunio eraill cyn i’r rheolau trethi lleol newydd ddod i rym ar 1 Ebrill 2023.”