Dydy cwmni parcio heb ddysgu ar ôl i ymgyrchydd iaith fynd gerbron llys am wrthod talu dirwy uniaith Saesneg, medd ymgyrchydd arall.
Fe wnaeth Arwyn Groe dderbyn dirwy barcio uniaith Saesneg yn Llangrannog fis Gorffennaf eleni, ac roedd yr holl ohebiaeth ddilynol yn uniaith Saesneg hefyd, a gwrthododd dalu’r ddirwy.
Digwyddodd yr un fath yn union i Toni Schiavone yn 2020, ac ymddangosodd gerbron ynadon Aberystwyth fis Mai eleni ar ôl gwrthod talu dirwy uniaith Saesneg yn y maes parcio yn Llangrannog.
One Parking Solutions, cwmni sydd wedi’i leoli yn Worthing yn Sussex, sy’n rheoli’r maes parcio ar ran y perchennog.
Cafodd yr achos yn erbyn Toni Schiavone ei daflu allan o’r llys gan nad oedd neb o’r cwmni yno.
‘Cadw’r pwysau’
Does dim gorfodaeth gyfreithiol ar gwmnïau preifat i weithredu drwy’r Gymraeg, ond mae Arwyn Groe wedi penderfynu gwneud safiad er mwyn cadw’r pwysau ar y cwmni.
“Oherwydd y safiad roedd Toni Schiavone wedi’i wneud fe wnaeth y cwmni ar y pryd ddweud ryw bethau yn honni bod yn gefnogol i’r Gymraeg, ac roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bwysig, gan fod yr union yr un peth wedi digwydd eto, i gadw’r pwysau ar y cwmni,” meddai Arwyn Groe wrth golwg360.
“Roeddwn i’n teimlo tasa pobol fel fi’n rhoi mewn ar hyn ac yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd eto fyth mi fysa aberth, yn yr enghraifft yma, Toni Schiavone, wedi mynd yn wastraff i bob pwrpas.
“Dw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i ni gyd gadw’r pwysau arnyn nhw, i yrru’r neges allan iddyn nhw’n benodol, a thrwy hynny i gwmnïau eraill, bod pobol Cymru ddim yn fodlon iddyn nhw weithredu yn y modd yma.
“Mae hi jyst yn siomedig i fi bod y cwmni heb ddysgu ar ôl y profiad o fod yn y llys ar y mater yma.”
Mae’r ddirwy wedi cael ei throsglwyddo i gwmni hawlio dyled, ac maen nhw bellach yn bygwth galw yn ei gartref teuluol.
Galw am ddeddf gryfach
Yn ôl Arwyn Groe, mae’r safiad yn ddeublyg, yn ymgyrch yn erbyn y cwmni a rhai tebyg ac yn ymdrech i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gryfhau’r ddeddf iaith.
“Mae’n profi eto fyth nad ydy’r ddeddfwriaeth yn ddigon cryf achos dydyn ni methu eu herio nhw ar sail gyfreithiol a bod yn hollol ffyddiog ein bod ni’n mynd i ennill achos dydy’r ddeddf ddim digon cryf i wneud hynny,” meddai wrth golwg360.
“Dydy hynny wrth gwrs, o brofiad protestiadau Cymdeithas [yr Iaith] drwy’r degawdau, ddim yn rheswm i beidio ymladd.
“Dylai pobol Cymru ddim gorfod brwydro’r brwydrau bach yma pan mae gennym lawer gwell pethau i’w gwneud efo’n bywydau jyst oherwydd bod y Llywodraeth, ar y mater yma, yn rhy wan i herio cwmnïau preifat.
“O fy mhrofiad i, does gan lot o’r cwmnïau preifat yma ddim byd yn erbyn y Gymraeg. Mi fydden nhw’n fwy na pharod i ddilyn rheolau deddf newydd dw i’n credu, hyd yn oed y cwmni penodol yma.”
‘Dim diddordeb na pharch’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi eu cefnogaeth i Arwyn Groe.
Dywed Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu’r Gymdeithas, ei bod hi’n amlwg nad oes “tamaid bach o barch na diddordeb gan berchennog y maes parcio na’r cwmni dirwyon yn y Gymraeg”.
“Mae un ymgyrchydd wedi bod i’r llys wedi iddo wrthod talu dirwy uniaith Saesneg, a’r cwmni wedi penderfynu peidio gwrando,” meddai.
“Does dim rheidrwydd i gwmnïau preifat fel hyn i gynnig unrhyw ddarpariaeth Gymraeg, felly dydyn nhw ddim.
“Mae archfarchnadoedd a banciau wedi dweud wrthon ni droeon yn y gorffennol na fyddan nhw’n cynnig gwasanaethau Cymraeg nes bod rheidrwydd arnyn nhw i wneud.
“Mae’r ateb yn amlwg felly – mae angen ehangu’r Mesur Iaith i gynnwys cwmnïau preifat. Ac mae’n hen bryd gwneud. Mae dros ddeng mlynedd ers creu Mesur y Gymraeg erbyn hyn.”
‘Dim angen Polisi Iaith Gymraeg’
Mae Arwyn Groe wedi codi’r mater gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sydd wedi gyrru at One Parking Soultion yn tanlinellu pwysigrwydd y Gymraeg, eu hatgoffa o achos Toni Schiavone, a chynnig cefnogaeth i ddatblygu eu polisïau iaith.
Y maes parcio yn Llangrannog ydy’r unig un yng Nghymru sydd dan reolaeth y cwmni.
“Tra ein bod ni’n dymuno cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg ond yn cael ein cyfyngu gan ddiffyg arbenigedd o fewn y cwmni, fe wnaeth One Parking Solution Ltd benderfynu y byddai’r arwyddion sy’n esbonio termau ac amodau’r safle yn cael eu gosod yno’n Gymraeg a Saesneg,” meddai’r cwmni yn eu hymateb i Gomisiynydd yr Iaith.
“Ar hyn o bryd, dydy One Parking Solution Ltd ddim yn gweld yr angen am gael Polisi Iaith Gymraeg ysgrifenedig, ond pe bai yna gyfle i ehangu ein gwasanaethau o fewn y wlad, byddai cael Polisi Iaith Gymraeg ysgrifenedig yn flaenoriaeth.
“Yn yr achosion prin pan mae apeliadau i ddirwyon parcio yn cael eu gwneud mewn iaith wahanol i Saesneg, rydyn ni’n egluro i’r gyrwyr nad ydyn ni’n gallu derbyn apeliadau oni bai eu bod nhw’n Saesneg.”
‘Cyflwyno i fwy o sectorau’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n awyddus i weld “pob sector yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni”.
“Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru.
“Rydym yn ymrwymedig i weithredu’r Mesur yn llawn ac yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg i fwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf.”