Roedd bwyty annibynnol yn Nolgellau wedi cau ei ddrysau am y tro olaf ddoe (dydd Sul, Medi 25), oherwydd anallu i ddelio â’r cynnydd mewn costau ynni.

Roedd y Gatehouse Steakhouse yn gobeithio am bedair blynedd arall yn Nolgellau, ond ar ôl derbyn dyfynbris o £7,378 y mis am nwy a thrydan, fe benderfynodd y bwyty fod rhaid cau eu drysau.

“Mae hyn yn gynnydd enfawr o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei dalu, ac nid yw’n realistig i fusnes annibynnol bach ffynnu gyda gorbenion o’r fath… a dim ond troedio dŵr yw “goroesi”,” meddai John a Vita, perchnogion y bwyty, ar Facebook.

“Daw pob peth da i ben a bydd drws arall yn agor.”

‘Cwbl afrealistig’

Dywed y pâr eu bod nhw wedi gwneud y mwyaf o’r busnes ym mhob ffordd bosibl wrth gynnal eu gwerthoedd a pharhau i wella ym mhob agwedd ers agor yn 2016.

“Ond mae cael y dasg o gynyddu refeniw o 5.5k arall y mis dim ond i gadw’r goleuadau ymlaen, yn gwneud hyn yn eithaf dibwrpas.

“Oni bai am angerdd a chariad, cyfeillgarwch, tynnu coes, chwerthin ac ati, nod y busnes hwn yw bod yn broffidiol.

“Mae ychwanegu £66000 yn ychwanegol at ein biliau blynyddol sydd eisoes yn uchel, yn fy ngadael â mwy o gwestiynau nag atebion ar sut i gynhyrchu’r refeniw ychwanegol hwnnw, gyda llwyth gwaith ychwanegol, ond dim elw ychwanegol … wrth ddelio â phrisiau cyflenwyr cynyddol (mae’r cyflenwyr hefyd yn cael eu taro gyda chynnydd enfawr, a fydd yn cynyddu prisiau cynnyrch).

“Yr ateb hawdd yw codi prisiau, ond nid yw’n syml.

“Rhaid i nifer yr ymwelwyr hefyd gynyddu wedyn, ond mae’n debygol iawn o leihau o ystyried y gostyngiad yn incymau aelwydydd ar ôl cynnydd mewn biliau ac ati.

“Pe baem yn parhau i fasnachu, byddem yn codi dros £30 am Stêc Rump 8 owns, a £25 am fyrgyr… mae hyn yn gwbl afrealistig.

“A pheidiwch ag anghofio, fyddai hyn ddim ond er mwyn clirio biliau ynni, nid Ferrari neu Lamborghini, dim ond i dalu am ynni!

“Felly roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniad call yn seiliedig ar ffeithiau a meddwl call.

“Mae’n drist iawn, ond ni ellir gwneud y penderfyniadau hyn â’r galon.

“Pe bai’n cael ei benderfynu â’r galon, byddem yma am flynyddoedd a blynyddoedd nes eich bod wedi cael llond bol arnom.”

‘Diolch’

Dywed y pâr fod diswyddo staff yn beth anodd iawn i’w wneud, ond fod y staff wedi derbyn y newyddion yn dda, er gwaethaf eu syndod.

“O’n tîm cyntaf ym mis Ebrill 2016 i’n tîm olaf un ym mis Medi 2022, diolch yn fawr iawn am eich holl waith caled, ymdrechion enfawr, tynnu coes a chyfeillgarwch da,” medden nhw wedyn.

“O’r gwasanaeth hir a’r staff profiadol, i’r gynnau ifanc sy’n rhoi popeth iddi, dylech chi i gyd fod mor falch ohonoch chi’ch hunain!”

Mae’r pâr hefyd eisiau diolch i’w cwsmeriaid dros y blynyddoedd.

“I’n holl gwsmeriaid, ni allwn ddiolch digon i chi i gyd,” medden nhw.

“Rydym yn eithriadol o ostyngedig o gael bod yn gyfrifol am hapusrwydd a mwynhad cynifer o bobol.

“Mae anfon sypreis bach o’r gegin a’r bar at gwsmeriaid diarwybod wedi bod yn gymaint o wefr i weld yr hapusrwydd, ac i deimlo’r cariad a chefnogaeth gan gynifer o bobol, ni allwn ddiolch digon i chi i gyd.

“Yr hyn a ddarganfuwyd yn gyflym gennym oedd cymuned anhygoel o bobol garedig a hyfryd, a agorodd eu breichiau a gadael i ni, newydd-ddyfodiaid anhysbys, i mewn gyda chroeso cynnes.”

“Angen ystyried o le ddaw ein hynni” wrth i’r bunt ddisgyn, yn ôl economegydd

Elin Wyn Owen

“Gallem yng Nghymru ddarparu trydan llawer, llawer rhatach a fyddai o gymorth yn y tymor hir,” meddai Dr John Ball