Mae’r achos yn erbyn Toni Schiavone wedi cael ei daflu allan gan fod neb o’r cwmni oedd wedi dwyn achos yn ei erbyn wedi mynd i’r llys.
Roedd disgwyl i’r ymgyrchydd iaith fynd gerbron ynadon yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Mai 11) am wrthod talu dirwy uniaith Saesneg.
Cafodd e ddirwy barcio uniaith Saesneg yn Llangrannog ym mis Medi 2020, ac roedd yr holl ohebiaeth ddilynol hefyd yn uniaith Saesneg, ac fe wrthododd e dalu’r ddirwy.
One Parking Solutions sy’n rheoli’r maes parcio arfordirol, ac mae eu pencadlys yn Worthing yn Lloegr.
Ar ôl cysylltu â’r cwmni i ofyn am hysbysiad cosb a gohebiaeth bellach yn Gymraeg sawl gwaith, dywedodd wrthyn nhw na fyddai’n talu’r ddirwy oni bai ei fod e’n derbyn y cyfan yn Gymraeg.
‘Pam na allwn ni ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg?’
“Mewn ardal mor Gymraeg â Llangrannog pam na allwn ni ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg?” meddai Toni Schiavone cyn yr achos.
“Fe wnes i ofyn sawl gwaith am gael yr hysbysiad cosb a gohebiaeth yn Gymraeg ond mae One Parking Solutions wedi gwrthod, gan ddadlau mai cwmni Seisnig yw e ac nad oedd rheidrwydd arnynt i ddanfon hysbysiad cosb yn y Gymraeg.
“Mater bach iawn fyddai anfon hysbysiad cosb yn y Gymraeg ond maen nhw wedi anwybyddu’r cais a phenderfynu mynd â fi i’r llys.
“Eu dewis nhw yw creu trafferth iddyn nhw eu hunain.”
Gosod cynsail
Oherwydd bod Toni Schiavone wedi gofyn bod pob gohebiaeth gan y llys yn Gymraeg, bu’n rhaid i One Parking Solutions gyfieithu’r holl wybodaeth ar gyfer y llys eu hunain, gan gynnwys copi o’r ddirwy.
“Fe wnes i ofyn dro ar ôl tro am yr hysbysiad cosb yn Gymraeg, a byddwn i wedi talu’r ddirwy, ond yn lle hynny penderfynodd One Parking Solutions fynd â fi i’r llys,” meddai wedi’r achos.
“Am bod y llys wedi gofyn iddyn nhw gyfieithu copi o’r hysbysiad cosb fe wnaethon nhw, ond cymerodd hi achos llys iddyn nhw wneud – a wnes i ddim derbyn yr hysbysiad swyddogol yn Gymraeg o gwbl.”
Wrth ddiolch i gefnogwyr a ddaeth i’r llys dywedodd bod hyn yn gosod cynsail i’r cwmni.
“Gan iddyn nhw orfod cyfieithu copi’r hysbysiad cosb does dim byd yn eu rhwystro nawr rhag cyflwyno hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol.
“Mae cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud pethau yn Gymraeg, ond dim ond os oes gorfodaeth gyfreithiol iddyn nhw wneud. A dim ond un o nifer o gwmnïau preifat sy’n rhedeg meysydd parcio yw hwn.”
Mae e bellach yn galw am newid y Mesur Iaith i gynnwys y sector breifat.
“Mae dros ddeng mlynedd ers i’r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus,” meddai.
“Mae mwy o bobl yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen.
“Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?”