Bydd ymgyrchydd o Gaerdydd yn ymprydio ar wahanol adegau dros gyfnod dathliadau’r Jiwbilî ac yn rhoi’r arian y bydd hi’n ei arbed i fanc bwyd lleol.
Mae Gwenno Dafydd yn annog eraill i ymuno â’r brotest yn erbyn y gloddesta ddechrau fis Mehefin.
Mi fydd hi’n ymprydio am bedwar diwrnod cyfan (Mehefin 2-5), ac mae hi’n annog pobol i wneud yr hyn fedran nhw a mynd heb ambell bryd.
Pe bai pawb yn mynd heb un pryd y diwrnod am bedwar diwrnod, byddai hynny’n £20 yr un i fanciau bwyd lleol, meddai Gwenno Dafydd.
Mae hi’n pwysleisio nad ydy hi’n annog unrhyw un sydd mewn iechyd gwael i ymuno â’r ympryd.
“Mae’n gas gen i’r syniad bod yna gymaint o bres yn cael ei wastraffu, ac ein bod ni’n gorfod talu tuag y gloddesta yma pan mae yna gymaint o bobol yn dioddef, gymaint o bobol yn cael trafferth meddwl sut ar wyneb y ddaear maen nhw am gael y pryd nesaf ar y bwrdd,” meddai Gwenno Dafydd, sydd wastad wedi bod yn sosialydd, wrth golwg360.
“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth positif yn hytrach nag eistedd yma’n ddiymadferth yn cwyno ac yn cwyno.
“Mae’n gas gen i’r rhaniadau yn y gymdeithas lle mae’r cyfoethog yn uffernol o gyfoethog ac mae’r tlawd yn mynd yn fwy tlawd, yn enwedig yma yng Nghymru.
“Roeddwn i’n meddwl beth alla i wneud, lle alla i ddangos ryw fath o brotest lle mae’n hawdd i’w wneud, mae’n mynd i fod yn hawdd i unrhyw un arall ei wneud yn unrhyw le, ac mi allwn ni wneud rhywbeth positif.
“Dw i eisoes yn gwneud ympryd, rhywbeth o’r enw 2-5, lle dw i’n byw ar 600 calori am gyfnod o ddau ddiwrnod yr wythnos i drio cadw fy mhwysau o dan reolaeth felly dw i wedi arfer efo’r syniad yma o ymprydio dros dro.
“Allwn ni gyd ymprydio am gwpwl o oriau, mynd heb ginio neu swper, neu efallai wneud diwrnod cyfan. Mae o i gyd o fewn cyrraedd pawb.
“Dw i ddim yn gwybod am ba mor hir dw i’n mynd i fod yn ymprydio, ond dw i ddim am fod yn ei wneud o am bedwar diwrnod cyfan achos dydy hynny ddim am fod yn saff i mi achos mae gen i gyflwr gwaed trwchus sydd o dan reolaeth.
“Rydyn ni i gyd yn gallu mynd heb un pryd o fwyd a fysa hynna oddeutu £5.”
Mae Gwenno Dafydd wedi creu hashnodau er mwyn i bobol eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae hi’n annog pobol i ddefnyddio’r hashnodau #AngenNidAngau, #YmprydJiwbilirBanciauBwyd, #NeedNotGreed a #JubileeFastForFoodBanks a dweud eu bod nhw wedi cyfrannu, faint oedd y swm, ac i ba fanc bwyd.
Cael gwared ar y cywilydd
Mae Gwenno Dafydd yn awyddus i gael gwared ar y cywilydd sydd ynghlwm â defnyddio banciau bwyd hefyd.
Cafodd dros 131,000 o becynnau bwyd eu rhoi i bobol yng Nghymru y llynedd, yn ôl ystadegau’r Trussell Trust, ac roedd y galw 35% yn uwch dros y chwe mis hyd at fis Ebrill eleni nag yr oedd yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl.
“Rydyn ni i gyd mewn perygl o fod yn gorfod defnyddio’r banciau bwyd yma, bob un ohonom ni – neu os nad ydyn ni, mae ein plant ni, mae ein ffrindiau ni, neu efallai rhywun yn ein teulu neu ein cymdeithas ni,” meddai Gwenno Dafydd wedyn.
“Dw i eisiau trio torri’r tabŵ yna o gywilydd achos yn anffodus dyna’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd iddo.
“Dyma’r pumed wlad gyfoethocaf yn y byd i gyd, ac rydyn ni’n gorfod mynd i fanciau bwyd… mae o’n warth.”