Mae undebau ac arbenigwyr wedi dweud bod cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth a gafodd eu datgelu yn Araith y Frenhines yn “ymosodiad difrifol ar ryddid y wasg”.
Gall diwygiadau i’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol olygu bod newyddiadurwyr yn cael eu herlyn am adrodd gwybodaeth gan ffynonellau megis whistle-blowers sy’n datgelu camweddau’r llywodraeth.
Roedd hynny, ynghyd ag “ymdrechion i droi darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i’r math o gyfryngau sy’n bodoli yn yr Unol Daleithiau”, yn arwyddocaol yn yr araith ddoe (dydd Mawrth, Mai 10), yn ôl yr Athro Thomas O’Malley o Brifysgol Aberystwyth.
“Mae yna ddau beth am hyn sy’n ymddangos i fod yn bwysig iawn i mi,” meddai Thomas O’Malley, sy’n Athro Emeritws yn Adran Astudiaeth Theatr, Ffilm a Theledu’r brifysgol ac yn arbenigo ar bolisi cyfryngau yn y Deyrnas Unedig, wrth golwg360.
“Y cyntaf yw ei fod yn ymosodiad difrifol ar ryddid y wasg, yn enwedig oherwydd ei fod yn targedu newyddiadurwyr sy’n adrodd ar waith whistle-blowers.
“Yn ôl fy nealltwriaeth i, roedd newyddiadurwyr yn y gorffennol yn gallu honni amddiffyniad ar sail diddordeb y cyhoedd os ydyn nhw’n adrodd ar waith whistle-blowers.
“Mae’n ymddangos bod hyn yn diflannu i bob pwrpas o’r ddeddfwriaeth newydd.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n rhannol oherwydd bod y llywodraeth wedi cael eu taflu gan chwyldroadau fel yr un gan WikiLeaks am Iraq.”
‘Fel cyfryngau’r Unol Daleithiau’
Cafodd cynlluniau i breifateiddio Channel 4 dan y Ddeddf Cyfryngau eu datgelu yn ystod yr araith hefyd.
“Yr ail beth yw ei fod e’n rhan o becyn cyffredinol o fesurau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosod ar ryddid gwasg rydd, neu wasg weddol rydd,” esbonia Thomas O’Malley.
“Mae’r pecyn hwnnw’n cynnwys yr ymosodiad ar y BBC a’r ymdrech i breifateiddio Channel 4, achos maen nhw eisiau troi darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i’r math o gyfryngau sy’n bodoli yn yr Unol Daleithiau lle nad oes yna wiriadau iawn yn cael eu gwneud ar y math o gynnwys y gall darlledwyr fel Fox ei gynhyrchu.
“Elfen arall hyn, o bersbectif Cymru, mae S4C, BBC Wales, BBC Radio Cymru i gyd wedi elwa o’r ffaith bod gennym ni system ddarlledu anfasnachol – dyna pam maen nhw yna.
“Bydd y cynigion ar gyfer y cyfryngau gan y llywodraeth hon yn tanseilio’r safle honno’n radical.”
Ymosodiad ar newyddiadurwyr
Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi beirniadu’r cynlluniau hefyd.
“I lawer, mae’r rhaglen hon o ddeddfwriaeth yn teimlo fel tymor agored yn erbyn newyddiadurwyr a newyddiaduraeth, ac yn erbyn pawb sy’n gwerthfawrogi’r rhan mae hawliau dynol a rhyddid y wasg yn ei chael yn ein democratiaeth,” meddai Michelle Stanistreet, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.
“Bydd yr NUJ yn gweithio’n galed i gael gwared ar yr heriau hyn i’n haelodau a’r gwaith maen nhw’n ei wneud.”