Cysylltodd ymgyrchydd undebau llafur â fi’n ddiweddar o Kryvy Rih yn ne-ddwyrain Wcráin, ardal dan fygythiad gan luoedd Rwsia ac sy’n destun ymosodiadau magnelau a rocedi. Mae’n ardal ddiwydiannol a glofaol lle caiff Rwsieg ei siarad yn bennaf. Mae ganddo fe gannoedd o aelodau undebau, glowyr, peirianwyr, gweithwyr trafnidiaeth sydd wedi ymuno â’r lluoedd arfog sifil neu’r fyddin.
“Mae angen arfwisg arnom,” meddai wrthyf. “Rydym yn barod i frwydro i amddiffyn ein rhyddid ond mae angen cyfarpar arnom.”
Dywedodd fy nghefnder, sy’n feddyg trawma, wrthyf fod ysbytai rheng flaen yn trin pobol gyffredin, henoed, dynion, menywod, plant ac amddifynwyr mewn niferoedd sydd o hyd yn cynyddu yn sgil ymosodiadau Rwsia. Mae angen cyfarpar meddygol arbenigol arnyn nhw i drin esgyrn sydd wedi torri, clwyfau shrapnel a bwledi, anafiadau sydd wedi’u hachosi gan fomio a sielio pentrefi, trefi a dinasoedd yn nwyrain Wcráin, lle mae Putin bellach yn ffocysu ei uchelgais imperialaidd. Mae angen rhwymynnau a chit trawma rhyfel arnyn nhw.
Fe wnes i addo codi arian ar frys. Cododd fy ymgyrch ddiwethaf £43,000 at anghenion tebyg. Anfonodd fy nghefnder luniau ataf o’r piniau dur ar gyfer esgyrn sydd wedi torri sy’n cael eu derbyn a’u dosbarthu i ysbytai ar ymyl y parthau rhyfel yn Kharkiv a Mykolaiv. Y noson honno, ar y newyddion wedi’r ymosodiad gan roced yn Mykolaiv, fe welais i luniau teledu yn dangos y dinistr a gafodd ei achosi a lluniau o ddioddefwyr y bomio gyda’r union biniau dur hynny, a gafodd eu dosbarthu deuddydd ynghynt, wedi’u rhoi yn eu breichiau a’u coesau i’w gwella a’u hachub ar ôl iddyn nhw gael eu torri.
Y noson o’r blaen, anfonodd fy nghyfnither neges ataf yn dweud bod ei gŵr, oedd yn beilot hofrennydd, wedi cael ei daro gan daflegryn Rwsia a bod y criw cyfan wedi’i golli. “Sut alla i barhau i fyw?” gofynnodd hi. Mae ganddi ddau o blant bach.
Mae’r digwyddiad trasig hwn wedi atgyfnerthu fy nghred fod rhaid i Wcráin ennill y rhyfel mileinig hwn yn erbyn ffasgiaid Rwsia. Nid dim ond er lles Wcráin, ond er lles pawb ohonom yn Ewrop. Dw i’n benderfynol o wneud popeth alla i, dim ots pa mor fach, i helpu’r bobol ddewr hyn. Dw i wedi lansio ymgyrch dorfol (crowdfunder) i godi £5,000. Bydd yn mynd yn uniongyrchol i’r rheng flaen i’w galluogi nhw i brynu cyfarpar meddygol allweddol i achub bywydau’r rheiny sydd wedi’u hanafu neu eu clwyfo wrth amddiffyn eu gwlad, a’u rhyddid nhw a ninnau.
Mae pobol Cymru eisoes wedi bod mor hael, a dw i’n gwybod pa mor anodd yw pethau i nifer o bobol ar yr adeg hon. Ond gofynnaf eto i bobol wneud popeth allan nhw i gefnogi Wcráin a’i phobol, ac i roi i fy ymgyrch Crowdfunder i godi arian ar gyfer cyfarpar hollbwysig. Gallaf sicrhau pawb y bydd yn mynd yn uniongyrchol i ysbytai rheng flaen ac i ddarparu citiau trawma i’r rheiny sy’n brwydro am eu rhyddid.
Diolch yn fawr.