Mae 332,710 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn £150 er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Mae’r taliadau, a ddechreuodd gael eu dyrannu ym mis Ebrill, wedi costio £50m i’r Llywodraeth hyd yma.
Bydd mwy o bobol yn cael eu taliad o £150 yn yr wythnosau sydd i ddod.
Mae’r cynllun gwerth £152m yn cael ei weithredu gan awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth yn cael ei rhoi i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau’r dreth gyngor A i D.
Mae aelwydydd sy’n cael cefnogaeth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor hefyd yn derbyn cefnogaeth, waeth beth fo’u band treth gyngor.
Caiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobol os oes gan yr awdurdod lleol yr wybodaeth honno.
Pan nad oes gan yr awdurdod lleol y manylion hynny, mae angen i aelwydydd cymwys lenwi ffurflen gofrestru syml.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd awdurdodau lleol yn cysylltu â phob aelwyd cymwys i ofyn am y manylion angenrheidiol.
‘Cymorth angenrheidiol’
“Mae’r taliad hwn yn sicrhau cymorth angenrheidiol i aelwydydd Cymru, gan helpu pobl i ymdopi ag amgylchiadau sy’n fwyfwy heriol,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.
“Bydd biliau cynyddol a phrisiau sy’n codi yn tynhau’r arian sydd gan bobl ac yn eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd.
“Mae’r taliad £150 hwn yn un ffordd rydyn ni’n lleddfu ychydig ar y pwysau hwnnw.
“Mae’r cynghorau yng Nghymru wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng hwn a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion i roi’r cynllun hwn ar waith.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i roi cefnogaeth, ond mae llawer o’r dulliau allweddol ar gyfer newid – yn bwysicaf oll ynghylch cymorth lles – yn San Steffan.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymuno â ni i sicrhau ymateb llawn i’r argyfwng, gan roi cefnogaeth ar frys i bobl.”