Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu sefydlu awdurdod goruchwylio diogelwch tomenni glo.

Heddiw (dydd Iau, Mai 12), mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno cyfraith newydd i reoli gwaddol y diwydiant glo.

Mae’r cynlluniau’n blaenoriaethu diogelwch cymunedau, a gwaith yr awdurdod goruchwylio newydd fyddai sicrhau bod trefniadau rheoli ar waith ar gyfer tomenni yn y categori risg uchaf.

Fe fyddai’r awdurdod hwnnw’n creu a chadw cofrestr asedau genedlaethol newydd hefyd.

Cafodd y cynigion eu llunio yn sgil adroddiad diweddar gan Gomisiwn y Gyfraith, sydd wedi helpu Llywodraeth Cymru i lunio’r Papur Gwyn ar y gyfraith.

Cynlluniau

Byddai ffordd genedlaethol newydd o gategoreiddio tomenni glo yn cael ei arwain gan yr awdurdod goruchwylio newydd.

Nhw fyddai’n trefnu asesiadau perygl a fydd wedi’u teilwra ar gyfer pob safle er mwyn asesu’r bygythiadau a allai fod yn gysylltiedig â thomen, ac yn mynd ati wedyn i gytuno ar gynllun rheoli.

Yr awdurdod goruchwylio newydd fyddai’n sicrhau bod trefniadau rheoli ar waith ar gyfer y tomenni categori uchaf, a byddai’n cyflwyno cytundebau cynnal a chadw ar gyfer tomenni ar safleoedd categori is.

Ar hyn o bryd, does dim pwerau i orfodi’r ddeddfwriaeth bresennol ar ddiogelwch tomenni glo.

Byddai’r camau gorfodi’n cynnwys caniatáu hawliau mynediad ar gyfer archwiliadau a gwaith cynnal a chadw neu waith adfer, a byddai sancsiynau sifil pe na bai’r perchenogion yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd.

‘Mwy a mwy o risg’

Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod gan Gymru “hanes balch o gloddio am lo” ond ei bod hi’n deall pam fod pobol sy’n byw yng nghysgod y tomenni’n teimlo’n nerfus.

“Oherwydd bod mwy a mwy o risg yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae’n amlwg nad yw’r gyfraith bresennol ar ddiogelwch tomenni gloyn addas i’r diben erbyn hyn,” meddai Julie James.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hynny a chwaraeodd ran hanfodol yn y chwyldro diwydiannol yn gallu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

“Y bobol hynny sy’n cael blaenoriaeth yn ein cynigion ar gyfer cyfundrefn gwbl newydd, ond rydyn ni am sicrhau ar yr un pryd ein bod yn diogelu seilwaith hanfodol ac yn parhau i ofalu am ein hamgylchedd.”

Mae’r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer tomenni glo, sydd i’w gweld yn y Papur Gwyn, wedi agor a bydd yn para 12 wythnos.

Llywodraeth Cymru am helpu i lywio deddf ar ddiogelwch tomenni glo

Ond mae’n “gwbl annheg ac, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaladwy i San Steffan barhau i ddadlau y dylai cymunedau Cymru ysgwyddo’r costau hyn”, meddai