Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Mai 12) i nodi a dathlu gwaith y newyddiadurwr Gareth Jones.
Yn ystod ei yrfa, fe adroddodd ar yr Holodomor (newyn) yn Wcráin, y tensiynau yn Ewrop yng nghanol y 1930au a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen.
Roedd ei ddatguddiadau am y newyn yn Wcráin, a ddatblygodd yn fwy angheuol gan benderfyniadau a gorchmynion gwleidyddol, yn seiliedig ar ei brofiadau fel llygad-dyst ar ôl teithio yn y rhanbarth gan ddatgelu graddfa ac arswyd yr Holodomor i gynulleidfa ryngwladol.
Bydd y dathliad yn nodi ac yn anrhydeddu cyfraniad Gareth Jones i newyddiaduraeth a materion rhyngwladol ac i ddathlu cwblhau’r gwaith o ddigido rhan helaeth o’i archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi’i ariannu gan Gynghrair Genedlaethol Merched America Wcráin, Sefydliad Temerty, Sefydliad Rhyddid Sifil Canada, Consortiwm Ymchwil ac Addysg Holodomor (HREC) a Russ a Karen Chelak.
Bydd y digwyddiad, sydd wedi’i noddi gan y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Lubomyr Luciuk a’r newyddiadurwr Martin Shipton, ynghyd â darlleniad o ddyfyniadau o ddyddiaduron a llythyrau Gareth Jones gan Julian Lewis Jones.
Gyrfa Gareth Jones a’r casgliad
Roedd Gareth Vaughan Jones (1905–35) yn ymchwilydd, newyddiadurwr ac awdur nodedig a gafodd ei ladd gan ‘ladron’ Tsieineaidd honedig ym Mongolia Mewnol ym mis Awst 1935.
Yn ystod ei yrfa, teithiodd y byd gan adrodd ar yr Holodomor yn Wcráin a Natsïaeth yn yr Almaen.
Mae’r casgliad yn y Llyfrgell yn cynnwys y ‘dyddiadur Hitler’ enwog a gafodd ei gadw ganddo yn ystod ei ymweliad â’r Almaen yng ngwanwyn 1933, lle disgrifia amgylchiadau byw a rhai digwyddiadau o fewn yr Almaen adeg y Natsïaid yn fuan ar ôl i Hitler ddod i rym yno.
Mae hefyd wedi gadael i ni ei argraffiadau hynod o dreiddgar o Hitler ei hun a Goebbels hefyd.
Mae grŵp pellach o chwe dyddiadur poced yn disgrifio mewn cryn fanylder ei ymweliadau â’r Undeb Sofietaidd rhwng 1931 a 1933, yn arbennig ei deithiau o fewn y wlad, a’r bobol mae’n eu cyfarfod ynghyd â disgrifiadau lliwgar o amgylchiadau’r Holodomor, y newyn erchyll a arweiniodd at filiynau o farwolaethau yn Wcráin.
Gareth Jones yw’r unig un bron a soniodd amdanyn nhw mewn papurau newyddion a chylchgronau ar y pryd.
Dyddiaduron Gareth Jones, efallai, oedd yr unig gadarnhad annibynnol o weithred waethaf Stalin.
‘Archif hynod o bwysig’
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol a gafwyd i ddigido archif Gareth fel rhan o strategaeth digido’r Llyfrgell,” meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.
“Mae’n archif hynod o bwysig ac erbyn hyn yn medru cael ei rhannu gyda haneswyr ac ymchwilwyr ar draws y byd.
“Mae ein dyled ni’n fawr hefyd i deulu Gareth am adneuo’r papurau gyda ni yn y Llyfrgell.”
Yn ôl Lubomyr Luciuk, Athro Gwleidyddiaeth Daearyddiaeth yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada, “talodd Gareth Jones gyda’i fywyd am ddweud y gwir”.
“Y fo oedd un o’r newyddiadwyr cyntaf i gyhoeddi’r stori am hil-laddiad Newyn Mawr 1932–1933 Wcráin Sofietaidd, yr Holodomor,” meddai.
“Mae’n hanfodol cofio a chysegru ymrwymiad y Cymro yma i adrodd am erchyllterau’r hyn oedd yn digwydd, hyd yn oed wrth i’r Sofietiaid, eu cyd-deithwyr, a llywodraethau gorllewinol guddio’r gwirionedd, yn enwedig mewn cyfnod lle mae Wcráin unwaith eto yn dioddef rhyfel, ymosodiad ac agenda hil-laddiad Vladimir Putin a’i gynghreirwyr yn y KGB.”
‘Mae dyled cenedl Wcráin i Gareth Jones yn fawr’
“Mae’n anrhydedd i Gynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin fod yn un o noddwyr y gwaith i ddigido dyddidaduron Gareth Jones,” meddai Osakana Lodzuik Krywulych, Swyddog Cyffredinol Cynghrair Genedlaethol Merched America Wcráin.
“Mae’r UNWLA yn parhau i fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i fod yn gyfrwng creu ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am yr hil-laddiad yn Wcráin, a adwaenir fel yr Holodomor.
“Mae dyled cenedl Wcráin i Gareth Jones yn fawr – gŵr arbennig nad oedd yn ofni dweud y gwir am erchyllterau’r Holodomor.
“Mae’n haeddu cael ei anrhydeddu a’i gofio am ddogfennu’r gwirionedd a hynny pan oedd yn cael ei wadu gan nifer yn y Gorllewin.
“Mae ei adroddiadau yn arbennig o drawiadol heddiw gan fod Wcráin unwaith eto yn dioddef hil-laddiad gan yr un tramgwyddwr tra bod llygad y byd yn gwylio wrth iddo ddigwydd.”
‘Mae’n bwysig peidio ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol’
Ddoe (dydd Mercher, Mai 11), cafodd dadl ei chynnal yn y Senedd i drafod a nodi bywyd a gwaith Gareth Jones.
Cafodd y cynnig trawsbleidiol i’w drafod ei gyflwyno gan Alun Davies, Jane Dodds a Sam Kurtz, a’i gefnogi gan Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Mark Isherwood, Peter Fox a Vikki Phillips (Howells).
“Mae’n bwysig trafod, ac mae’n bwysig dadlau,” meddai Alun Davies.
“Mae’n bwysig cofio, ac mae’n bwysig addysgu a dysgu.
“Ond mae hefyd yn bwysig peidio ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol ac ail-fyw erchyllterau’r gorffennol.
“I nifer ohonom, a dw i fy hun efallai’n siarad yn bersonol, wedi fy ngeni 20 mlynedd ar ôl D-Day, ces i fy magu yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd.
“Ces i fy magu yng nghysgod gwrando ar oroeswyr yn siarad am yr Holocost.
“Fe wnaethon ni ddysgu’n bersonol yr hyn mae hil-laddiad yn ei olygu.
“Doeddwn i byth yn meddwl y bydden ni’n gweld hil-laddiad eto, ond rydyn ni wedi’i weld e.
“Roeddwn i’n dyst iddo yn Rwanda ac yn hen Iwgoslafia.
“Rydyn ni’n gweld llofruddio torfol, llofruddiaeth ar raddfa ddiwydiannol, ar ein sgrin heddiw, heno, yn ddyddiol.
“Nid yn unig mae e’n anghredadwy, ond yn syml iawn mae’n annerbyniol ein bod ni’n parhau i wrando ac i gofio, ond nid i ddysgu byth.”
‘Balch’
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru groesawu’r cyfle i drafod Gareth Jones a’i arwyddocâd heddiw.
“Dwi’n falch ein bod ni fel Senedd yn gallu mynegi mewn ffordd mor unedig ein cydymdeimlad a’n solidariaeth ni efo pobol Wcráin wrth inni nodi 90 mlynedd ers yr Holodomor, sy’n cael ei alw’r ‘newyn mawr’ yn aml, ond, wrth gwrs, mae’r defnydd o’r gair ‘newyn’ yna’n awgrymu rhywbeth naturiol, pan rydyn ni’n gwybod yn iawn mai canlyniad i bolisi oedd hyn, y polisi o gyfunoleiddio neu collectivisation, a phenderfyniadau gwleidyddol a’u hanelwyd un ai’n bennaf neu yn llwyr at Wcráin,” meddai.
“Un dyn, wrth gwrs—rydym ni wedi clywed ei enw o droeon yma heddiw—wnaeth geisio tynnu sylw at y sefyllfa go iawn oedd y newyddiadurwr Gareth Jones o’r Barri.
“Mi oedd ganddo fo ddiddordeb yn Rwsia, fel rydym ni wedi ei glywed gan y Gweinidog, ers clywed hanesion ei fam pan oedd hi’n byw yn Hughesovka, bellach Donetsk.
“Mi ymwelodd ag Wcráin am y tro cyntaf yn 1930, dychwelyd sawl tro ar ôl hynny, yn penderfynu crwydro ar ei ben ei hun yn hytrach na chael ei arwain, fel cymaint o newyddiadurwyr tramor eraill, ar dripiau Potemkin gan swyddogion yr Undeb Sofietaidd, i weld beth roedden nhw eisiau iddyn nhw ei weld.
“A thrwy deithio ei hun, mi wnaeth o brofi yn uniongyrchol sgil-effeithiau’r newyn enbyd ar y trigolion.
“Mi oedd o’n gwerthfawrogi ei rym fel newyddiadurwr, ac, fel newyddiadurwr fy hun, dwi mor falch o’r hyn a wnaeth y Cymro yma dros Wcráin a thros newyddiaduraeth.”
‘Rhaid i ni ddechrau codi ymwybyddiaeth’
Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, mae’n rhaid dechrau codi ymwybyddiaeth o rybuddion Gareth Jones.
“Un o’r ychydig newyddiadurwyr o’r Gorllewin a adroddodd ar y newyn yn Wcráin oedd y Cymro Gareth Jones,” meddai.
“Roedd e’n dod o’r Barri ac mae e wedi’i gladdu ym mynwent Merthyr Dyfan.
“Cafodd ei anrhydeddu’n lleol, dan arweiniad Cyngor Tref y Barri, a bydd plac yn cael ei osod dros ei fedd neu gerllaw.
“Mae e’n dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin, a rhaid i ni ddechrau codi ymwybyddiaeth o’i rybuddion o heddiw.
“Roedd Gareth Jones yn llygad-dyst i’r dioddefaint yn Wcráin, ac fe ddywedodd y gwir am yr erchylltra y daeth o hyd iddo.
“Yn y dechrau, cafodd ei straeon eu cyhoeddi’n eang, ond mae’n debyg iddo gael ei wthio i’r cyrion a’i symud i’r annialwch newyddiadurol, ac mae llawer y byddwn yn ei ddysgu am hynny a’r rhesymau pam, rwy’n sicr, yn y digwyddiad sy’n cael ei gynnal yma yn y Senedd, i gofio Gareth Jones, sy’n cael ei noddi gan Mick Antoniw, ac wrth gwrs ddigido hollbwysig archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Gobeithio y bydd nifer o Aelodau’n bresennol, i ddysgu mwy am un o’n harwyr sy’n aml yn cael ei anwybyddu.”