Mae yna ddadlau mawr wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd, gyda Darren Millar yn dweud wrth golwg360 mai’r ffordd y cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi oedd wedi ei gorddi ac wedi arwain at ei ymddiswyddiad o bwyllgor yn y Senedd.
Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price, amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cyflwyno newidiadau mawr yn y Senedd ac i’n system etholiadol yma yng Nghymru.
O dan y cynlluniau, bydd maint y Senedd yn cynyddu o 60 aelod i 96, gyda chwotâu rhyw hefyd yn cael eu cyflwyno.
A bydd system D’Hont gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig yn cael ei mabwysiadu mewn etholiadau.
Maen nhw’n awyddus i’r Senedd gael ei diwygio mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026, hyd yn oed pe bai rhai o’r newidiadau’n rhai dros dro yn unig.
Ymddiswyddiad
Fodd bynnag, mae yna ymateb chwyrn wedi bod gan rai i’r cynlluniau.
Fe ymddiswyddodd y Ceidwadwr Darren Millar o Bwyllgor Diwygio’r Senedd ddechrau’r wythnos, gan ddweud bod “gwaith y pwyllgor wedi cael ei danseilio’n llwyr”.
“Y ffordd maen nhw wedi cyhoeddi’r cynlluniau hyn sydd wedi fy nghorddi i,” meddai wrth golwg360.
“Ddaru nhw ddim rhoi unrhyw rybudd i’r pwyllgor o gwbl.
“Roedd y pwyllgor yn gweithio’n dda, roedd yna waith trawsbleidiol da yn cael ei gyflawni ac roedden ni’n paratoi i greu adroddiad a gwneud ambell argymhelliad.
“Ond mae’r cyhoeddiad, i bob pwrpas, yn gyfarwyddyd i’r aelodau Plaid Cymru a Llafur sydd ar y pwyllgor i lunio adroddiad sy’n cyd-fynd â’r cyhoeddiad a wnaed.
“Felly mae gwaith y pwyllgor wedi cael ei danseilio’n llwyr, mae hi bellach yn teimlo’n ddibwys i gael pwyllgor.
“Wrth gwrs, roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i Lafur a Phlaid gynnal trafodaethau gwleidyddol, ond nid dyma’r ffordd y dylen nhw fod wedi mynd o’i chwmpas hi.
“Os oedden nhw am greu’r cytundeb gwleidyddol hwn heb glywed argymhellion y pwyllgor, yna doedd dim pwynt sefydlu’r pwyllgor.
“Mae fy mhlaid i wedi’i gwneud hi’n glir nad ydym ni eisiau gweld cynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n parchu’r ffaith fod yna fwyafrif o Aelodau yn y Senedd sydd am weld cynnydd a bod yna fandad i gynyddu maint y Senedd.
“Ar y sail yna, fe ymunon ni’r â’r broses a chymryd rhan yn y pwyllgor er mwyn edrych ar y gwahanol opsiynau oedd ar gael er mwyn cyflawni’r nod yna a gwneud ambell i argymhelliad.
“Nawr, mae pwyllgorau yn y Senedd i fod yn annibynnol o’r Llywodraeth, y nhw sydd fod i wneud argymhellion i’r Llywodraeth ar bolisi, dyna yw holl bwrpas pwyllgorau.”
“Cwestiynau mawr” am y system etholiadol
Mae yna “gwestiynau mawr” i’w gofyn am y system etholiadol y mae Llafur a Phlaid Cymru yn bwriadu ei chyflwyno, meddai Darren Millar wedyn.
O dan system D’Hondt â’i rhestrau caëedig, mae Darren Millar yn gofidio y bydd pleidiau llai ar eu colled tra bod y pleidiau mwy – yn enwedig Llafur – yn manteisio.
Ac yn wir, mae adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol a gafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister yn cydnabod y byddai’r system yn “hwyluso pleidiau gwleidyddol cryf a chydlynus”.
“Dyw system D’Hondt ddim yn system hollol gyfrannol felly mae’n golygu y bydd yna drothwy sylweddol o ran canran y bleidlais y bydd yn rhaid i bobol ei basio er mwyn ennill seddi mewn etholaethau – tua 10 neu ddeuddeg y cant,” meddai Darren Millar.
“Felly os wyt ti’n blaid sy’n derbyn deuddeg y cant o’r bleidlais yng Nghymru, mae’n bosib na fyddi di’n ennill unrhyw seddi o dan y system sy’n cael ei chynnig gan Lafur a Phlaid.
“Mae hynny yn syfrdanol o ystyried mai’r hyn yr oedden nhw’n honni i’w wneud oedd gwneud y Senedd yn fwy cyfrannol.
“Felly dw i’n meddwl bod yna gwestiynau mawr i’w gofyn am y system.
“Mae’r ddwy blaid hefyd yn galw am fwy o gydraddoldeb ac mae’r cynlluniau hyn yn cynnig rhai syniadau o ran sut i gyflawni mwy o gydbwysedd o ran rhyw.
“Ond nid yw’n gwneud dim ar gyfer elfennau eraill o gydraddoldeb megis hil, anabledd neu ffydd.
“Felly dw i ddim yn siŵr os mai’r rhain yw’r cynigion gorau ar gyfer Cymru’r 21ain Ganrif.”
Fe wrthododd Llywodraeth Cymru ymateb i sylwadau Darren Millar.
“Cyfaddawdu”
Mae Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi amddiffyn y system bleidleisio newydd, serch hynny, er ei bod yn mynd yn groes i addewid maniffesto’r Blaid i ddilyn argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol i sefydlu system STV.
Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn derbyn bod STV yn system decach na’r un sy’n cael ei chynnig, ond fod Plaid Cymru wedi gorfod “cyfaddawdu”.
“Dim Plaid Cymru enillodd yr etholiad diwethaf ac mae yna gyfaddawdu wedi digwydd,” meddai.
“Doedd Llafur ddim o blaid STV ac ail gynnig panel Laura McAllister oedd y system hon.
“Felly roedden nhw wedi rhagweld efallai y byddai yna drafferth cael STV drwodd ac rydyn ni wedi methu.
“Ond rydyn ni wedi llwyddo i gael y niferoedd o Aelodau o’r Senedd yr oedden ni eisiau, roedden ni eisiau 100 ac rydyn ni wedi cael 96 felly mae hwn yn dipyn o gam ymlaen.”
‘Elfen annemocrataidd’
Mae’r gŵr sy’n cynrychioli Canol De Cymru hefyd yn gwadu y bydd pleidiau llai yn colli allan o dan y system newydd.
Ond mae’n derbyn bod “elfen annemocrataidd” yn perthyn iddi.
“Mae’r system hon yn mynd i roi mwy o gyfle i bleidiau llai i ennill seddi na’r system gyfredol, does dim dwywaith am hynny,” meddai wedyn.
“Deuddeg y cant o’r bleidlais ydych chi wir ei angen i ennill sedd, mae e’n mynd i wneud pethau’n haws i’r pleidiau llai.
“I gael deuddeg y cant, mae angen i chi dargedu llai o bleidleiswyr na’r system gyfredol.
“O ran yr elfen annemocrataidd gyda rhestrau caëedig, dw i’n cytuno, dyw rhestrau caëedig ddim yn ddelfrydol o gwbl.
“Ond mae cwotâu yn rhan o’n cytundeb ni, ac mae’n anodd gweld sut y byddai modd cael cwotâu mewn lle heb restrau caëedig.
“Dw i’n cytuno yn llwyr [bod system STV yn system decach], ond celfyddyd y posibl yw realiti bywyd.
“Fydden ni ddim wedi gallu cael STV drwodd, dyma oedd yn bosibl, mae yna falans i bopeth.
“Beth ydyn ni eisiau ydi Senedd fwy, rydyn ni eisiau Senedd fwy cyfrannol, neu ydyn ni eisiau’r delfrydol?
“Yn anffodus, nid Plaid Cymru enillodd yr etholiad diwethaf.
“Petai hynny yn wir mi fyddem ni mewn sefyllfa lot yn gryfach i gwffio am STV, ond doedd STV ddim ym maniffesto’r Blaid Lafur.”
‘Newid yn llwyr y ffordd rydyn ni’n pleidleisio’
Mae yna sawl un wedi awgrymu fod y system D’Hondt yn debygol o fod o fudd i’r Blaid Lafur.
Ydi Rhys ab Owen yn gofidio am stitch-up felly?
“Does dim gofid gyda fi bod hwn yn stitch-up gan Lafur,” meddai.
“Rydw i wedi gweld pob math o fodelau a ffigyrau gwahanol yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr honedig ar Twitter.
“Dyw’r system hon ddim yn mynd i’w gwneud hi’n haws i Lafur i gael mwyafrif o gwbl.
“Os rhywbeth, mae hwn yn mynd i newid yn llwyr y ffordd rydyn ni’n pleidleisio.
“Mantra mawr y Blaid Lafur i ymhob etholiad ers cyn cof yw ‘pleidleisiwch drosom ni er mwyn cadw’r Torïaid ma’s.
“Dyw’r gri yna ddim yn mynd i weithio o dan y system newydd.
“Felly dw i ddim yn gweld hwn fel system sy’n mynd i ffafrio’r Blaid Lafur o gwbl.”