Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd gerbron ynadon yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Mai 11) am wrthod talu dirwy uniaith Saesneg.

Cafodd Toni Schiavone ddirwy barcio uniaith Saesneg yn Llangrannog ym mis Medi 2020, ac roedd yr holl ohebiaeth ddilynol hefyd yn uniaith Saesneg, ac fe wrthododd e dalu’r ddirwy.

One Parking Solutions sy’n rheoli’r maes parcio arfordirol, ac mae eu pencadlys yn Worthing yn Lloegr.

Ar ôl cysylltu â’r cwmni i ofyn am hysbysiad cosb a gohebiaeth bellach yn Gymraeg sawl gwaith, dywedodd wrthyn nhw na fyddai’n talu’r ddirwy oni bai ei fod e’n derbyn y cyfan yn Gymraeg.

‘Pam na allwn ni ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg?’

“Mewn ardal mor Gymraeg â Llangrannog pam na allwn ni ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg?” meddai Toni Schiavone.

“Fe wnes i ofyn sawl gwaith am gael yr hysbysiad cosb a gohebiaeth yn Gymraeg ond mae One Parking Solutions wedi gwrthod, gan ddadlau mai cwmni Seisnig yw e ac nad oedd rheidrwydd arnynt i ddanfon hysbysiad cosb yn y Gymraeg.

“Mater bach iawn fyddai anfon hysbysiad cosb yn y Gymraeg ond maen nhw wedi anwybyddu’r cais a phenderfynu mynd â fi i’r llys.

“Eu dewis nhw yw creu trafferth iddyn nhw eu hunain.”

Yn sgil y digwyddiad, mae’n galw am fesur iaith sy’n cynnwys y sector breifat.

“Mae cwmnïau preifat fel hyn wedi dweud droeon dros y blynyddoedd na fyddan nhw’n darparu gwasanaethau Cymraeg yn wirfoddol,” meddai wedyn.

“Mae’n amlwg felly bod angen deddf sy’n gosod disgwyliadau arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

“Mae dros ddeng mlynedd ers i’r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus – mae mwy o bobol yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen.

“Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?”