Bydd amseroedd aros dan y chwyddwydr yn ystod dadl yn y Senedd ddydd Mercher (Mai 11), wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig ddadlau bod cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â’r sefyllfa’n “gwbl annigonol”.
Mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod un ym mhob pump o bobol yng Nghymru ar restr aros am driniaeth.
Fis Chwefror eleni, roedd 691,885 o bobol ar restr aros, sy’n 140,000 yn fwy na’r un adeg y llynedd.
Yn ystod y mis hwnnw, roedd mwy na 64,000 o bobol wedi aros am ddwy flynedd am driniaeth, ffigwr sydd wedi mwy na threblu ers mis Awst y llynedd.
Roedd yna amser aros o 23 wythnos am driniaeth ar gyfartaledd, o’i gymharu â 13 wythnos yn Lloegr, ac roedd un ym mhob pedwar o gleifion yng Nghymru’n aros mwy na blwyddyn am driniaeth, gyda dim ond un ym mhob pump yn aros yr un faint o amser yn Lloegr.
Cyhoeddodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ei chynllun rai wythnosau yn ôl i leihau amserau aros, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y cynllun “heb uchelgais” ac fe wnaethon nhw fynegi pryder mai “plaster” oedd y cynllun i geisio trin “materion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn”.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, un o’r elfennau mwyaf siomedig oedd yr ymrwymiad i sicrhau na fydd rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o feysydd erbyn gwanwyn 2025.
Fis Tachwedd 2020, dywedodd ei rhagflaenydd Vaughan Gething y byddai’n “ffôl” cael cynllun adfer ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd cyn bod y pandemig ar ben, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau y gallai hyn fod wedi arwain at oedi’r cynnydd wrth fynd i’r afael â rhestrau aros, neu eu gwaethygu hyd yn oed.
Cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu nifer o gynlluniau ers dechrau’r pandemig i fynd i’r afael â’r argyfwng, meddai’r blaid.
Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu canolfan lawfeddygol ranbarthol a diagnosteg cyflym iawn, a Chynllun Mynediad at Feddyg Teulu, yn ogystal â hybu gwasanaethau eraill megis unedau man anafiadau a fferyllfeydd.
Ond maen nhw’n pwysleisio bod amserau aros wedi dyblu yn y flwyddyn cyn dechrau’r pandemig, a bod rhaid i bobol aros dros flwyddyn am driniaeth bryd hynny.
Fis Mawrth, gwelodd unedau damweiniau ac achosion brys yr amseroedd aros gwaethaf, a’r Gwasanaeth Ambiwlans yr ail amseroedd aros gwaethaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Roedd rhaid i 35% o bobol aros mwy na’r nod o bedair awr i gael triniaeth, tra mai dim ond 51% o alwadau brys lle’r oedd bywyd mewn perygl gafodd eu hateb o fewn y targed o wyth munud.
‘Annerbyniol’
Ar drothwy’r dadl, mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.
“Does dim modd gwadu bod Covid wedi cael effaith sylweddol ar ein gwasanaeth iechyd, felly mae mawr angen cynllun arnom i leihau’r amseroedd aros gwaethaf erioed sy’n annerbyniol ac sy’n gadael cannoedd o filoedd o bobol yn aros mewn poen,” meddai.
“Fodd bynnag, fydd cynlluniau hwyr Llafur sydd heb uchelgais ddim yn mynd i’r afael â’r diffygion sylweddol wrth gyflwyno gofal iechyd brys a dewisol – mae ei brif nod yn dal i gynnwys degau o filoedd o bobol yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth ymhen tair blynedd.
“Mae’n fwy digalon fyth oherwydd y cynnydd rydym yn ei weld yn Lloegr a’r Alban, gan wybod fod y cynllun hwn ar y gweill ers misoedd, a bod ein cynigion cadarn niferus dros y ddwy flynedd diwethaf wedi cael eu hanwybyddu ar y cyfan, gan gynnwys pan ddywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd fod y cynllun yn ffôl.
“Mae angen i Lafur gael gafael ar y Gwasanaeth Iechyd a rhoi’r gorau i dorri pob record anghywir.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r pandemig wedi cael effaith aruthrol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae wedi herio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’r eithaf ac mae’n parhau i effeithio ar amseroedd aros a lefelau staffio.
“Rydym wedi ymrwymo mwy nag £1bn yn ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i adfer ar ôl y pandemig a thorri amseroedd aros.
“Mae ein targedau i dorri’r ôl-groniad o restrau aros yn unol yn fras â’r rhai a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.”