Mae myfyriwr ymchwil o Gwm Rhondda yn gobeithio creu ap fydd yn galluogi dysgwyr Cymraeg i ymarfer yr iaith.
Fel dysgwr Cymraeg ei hun, gwelodd Lewis Campbell, sy’n 26 oed, y gallai wneud defnydd da o’i radd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a phrosesu iaith naturiol i greu ap adnabod lleferydd i helpu dysgwyr.
Bydd yn datblygu’r ap fel rhan o’i radd ymchwil PhD yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Bangor.
Mae Lewis yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan y brifysgol ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Dw i’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, a dw i’n teimlo’n ddigon cyfforddus yn siarad yn y dosbarthiadau a gyda ffrindiau da, ond pan mae’n dod i geisio siarad gyda phobol tu allan i’r cylch diogel yna, does gen i ddim yr hyder i ddweud llawer,” meddai.
“Felly, fy syniad i oedd creu ap a fyddai’n helpu i wella sgiliau sgwrsio a magu hyder i ddefnyddio’r iaith.
“Bydd yr ap yn gallu ‘ateb’ y defnyddiwr a rhoi adborth ar ynganiad neu os oedd strwythur brawddeg yn gywir ai peidio.
“Bydd ganddo hefyd sefyllfaoedd lle gallech chi fod eisiau defnyddio’r iaith – fel mynd i mewn i’r siop i brynu llaeth, archebu bwyd mewn caffi ac ati.”
‘Syrthio mewn cariad â’r Gymraeg’
Dechreuodd Lewis Campbell ddysgu Cymraeg ar Duolingo.
“Os dw i’n onest, pan ddechreuais i gyda Duolingo, dysgu Iseldireg oedd fy mlaenoriaeth,” meddai.
“Ar y pryd, ro’n i’n chwarae llawer o gemau ar-lein gyda ffrindiau o’r Iseldiroedd, ac ro’n i eisiau gallu ymuno yn y sgwrs.
“Yna tra ro’n i’n ei ddefnyddio, fe ryddhaodd Duolingo eu cwrs Cymraeg a meddyliais yr hoffwn roi cynnig arni. Dyna pryd wnes i syrthio mewn cariad â’r Gymraeg.”
Ers hynny, mae e wedi defnyddio ap SaySomethinginWelsh hefyd cyn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg yn haf 2021. Dechreuodd gyda chwrs haf ‘Mynediad’ dwys i ddechreuwyr ac mae e bellach yn dilyn cwrs ‘Sylfaen’ wythnosol.
“Dw i’n falch iawn fy mod i wedi dechrau’r daith i ddod yn siaradwr Cymraeg. Mae’n teimlo fel rhywbeth y dylwn allu ei wneud ar ôl byw fy holl fywyd yng Nghymru.
“Mae dysgu Cymraeg fel oedolyn yn brofiad gwahanol iawn i’r gwersi ges i yn yr ysgol. Dw i’n meddwl ei fod yn gwneud gwahaniaeth hefyd mai fi yw’r un sydd bellach yn dewis dysgu’r iaith, ac mae gen i well dealltwriaeth o ba mor ddefnyddiol ydy gallu siarad Cymraeg.
“Ac ar raddfa fach, un o’r pethau gorau ydy mod i’n gallu cyfieithu enwau lleoedd yn llythrennol a deall eu hystyr pan dw i’n teithio o gwmpas!
“Os ydych chi’n berson ifanc sy’n ystyried dysgu Cymraeg, byddwn yn eich annog i roi cynnig arni.”
Ym mis Medi, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobol ifanc 18 i 25 oed.